Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diffiniad o 'anabledd' o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn diffinio unigolyn anabl fel rhywun gyda nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu ef neu hi i wneud gweithgareddau arferol bywyd bob dydd.

Y diffiniad

At ddibenion y Ddeddf:

  • mae sylweddol yn golygu heb fod yn ddibwys nac yn fân
  • mae hirdymor yn golygu bod effaith yr anabledd wedi para neu'n debygol o bara am o leiaf 12 mis (ceir rheolau arbennig ar gyfer cyflyrau sy'n anwadal neu sy'n mynd a dod)
  • mae gweithgareddau arferol bywyd bob dydd yn cynnwys pethau bob dydd megis bwyta, ymolchi, cerdded a mynd i siopa
  • rhaid i weithgaredd bob dydd arferol effeithio ar un o'r 'galluoedd' a restrir yn y Ddeddf; mae'r galluoedd yn cynnwys symudedd, medrusrwydd llaw, lleferydd, clyw, golwg a'r cof

Mae rhai cyflyrau, megis tueddiad i gynnau tân yn fwriadol a chlwy'r gwair, yn cael eu heithrio'n benodol.

Mae pobl sydd wedi cael anabledd yn y gorffennol sy'n cyd-fynd â'r diffiniad hwn hefyd yn cael eu gwarchod dan gwmpas y Ddeddf. Ceir darpariaethau ychwanegol sy'n ymwneud â phobl gyda chyflyrau cynyddol.

Fe wnaeth Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 ddiwygio diffiniad anabledd. Cafodd wared ar y gofyniad y dylai salwch meddwl fod yn salwch 'sy'n cael ei gydnabod yn glinigol'.

Sicrhaodd hefyd bod pobl gyda HIV, canser a sglerosis ymledol yn cael eu gwarchod gan y Ddeddf o'r amser pan wneir y diagnosis, yn hytrach nag o'r adeg pan fo'r cyflwr yn cael rhywfaint o effaith niweidiol ar eu gallu i wneud gweithgareddau arferol bob dydd.

Canllawiau a chodau ymarfer

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau statudol, yn bennaf i gynorthwyo cyrff dyfarnu megis llysoedd a thribiwnlysoedd i benderfynu a yw person yn anabl ai peidio at ddibenion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Daeth y canllawiau presennol, 'Guidance on matters to be taken into account in determining questions relating to the definition of Disability', i rym ar 1 Mai 2006. Disodlodd y cyfarwyddyd gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn 1996 a bydd yn berthnasol i achosion yn ymwneud â gwahaniaethu cyn 1 Mai 2006.

Daeth y Comisiwn Hawliau Anabledd i ben ar 28 Medi 2007, ond mae ei wefan yn dal ar gael. Gallwch ddarllen y canllaw presennol, canllaw 1996 a chodau ymarfer y Comisiwn Hawliau Anabledd ar y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ar wefan y Comisiwn Hawliau Anabledd.

Cymorth a chyngor gan y Comisiwn Hawliau Anabledd

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a agorodd ar 1 Hydref 2007, yn gwneud y gwaith a arferai gael ei wneud gan y Comisiwn Hawliau Anabledd. Mae ganddynt linell gymorth benodol ar gyfer anableddau:

Llinell Gymorth Anabledd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol / Equality and Human Rights Commission Disability Helpline

RHADBOST MID02164
Stratford upon Avon
CV37 9BR

Rhif ffôn: 08457 622 633
Ffôn testun: 08457 622 644

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 9am a 5pm ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener; a rhwng 8am a 8pm ddydd Mercher.

Ffacs: 08457 778 878

E-bost: info@equalityhumanrights.com

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU