Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mynd i’r llys os ydych chi’n fyddar neu'n drwm eich clyw

Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, dylai'r llys ddarparu gwybodaeth am y cyfleusterau a'r cymorth cyfathrebu sydd ar gael i chi.

Cyfleusterau yn y llys

Mae gan y rhan fwyaf o'r llysoedd ddolenni sain gan gynnwys cyfleusterau isgoch. Os teimlwch y gallai hyn eich helpu, rhowch wybod i'r swyddog gwasanaethau cwsmeriaid yn y llys cyn gynted ag y byddwch yn gwybod y bydd rhaid i chi fynychu gwrandawiad.

Gallwch, os dymunwch, ymweld ag ystafell y llys cyn yr achos i wneud yn siŵr y bydd y cyfleuster yn eich helpu. I drefnu ymweliad â'r llys ymlaen llaw, cysylltwch â Swyddog Gwasanaeth i Gwsmeriaid y llys y byddwch yn mynd iddo.

Os cyhoeddir bod eich achos yn cychwyn dros system Tannoy ac os teimlwch y gallai hyn fod yn broblem, rhowch wybod i'r person yn y dderbynfa.

Os oes angen cyfieithydd/dehonglydd arnoch, bydd y swyddog gwasanaethau cwsmeriaid yn trefnu hyn. Dylech roi cymaint o rybudd ag sy'n bosibl iddynt.

Gallwch gael manylion am sut i gysylltu â'r llys ar unrhyw ohebiaeth a anfonir atoch neu drwy wasanaeth canfod llysoedd ar-lein Gwasanaeth Llysoedd EM.

Defnyddio cyfieithydd/dehonglydd

Os ydych yn mynychu'r llys fel, er enghraifft, hawlydd neu ddiffynnydd mewn achos sifil neu deulu, bydd Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn talu costau rhesymol am gyfieithydd/dehonglydd i'ch helpu yn eich gwrandawiad. Dim ond am gyfieithwyr/dehonglwyr a archebir drwy'r llys y byddant yn talu.

Os ydych angen cyfieithydd/dehonglydd, dylech gysylltu â'r llys cyn gynted a phosibl i roi gwybod iddynt. Bydd y llys yn trefnu bod cyfieithydd/dehonglydd yn bresennol.

Nid yw'r Gwasanaeth Llys yn gyfrifol am ddarparu cyfieithydd/dehonglydd ar gyfer unrhyw waith paratoi sy'n gysylltiedig â'r achos, er enghraifft, trafodaethau gyda thwrnai.

Defnyddio ffrind neu berthynas fel cyfieithydd/dehonglydd

Onid oes gan eich ffrind neu berthynas gymhwyster ffurfiol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth rhwng pobl fyddar a phobl sy'n clywed, efallai y byddai'n well defnyddio dehonglydd/cyfieithydd cymwysedig.

Os ydych am i ffrind neu berthynas gyfieithu/dehongli i chi mewn gwrandawiad, bydd angen i chi ofyn caniatâd y barnwr. Rhaid i'r barnwr fod yn sicr y gall eich ffrind neu berthynas ddehongli'n union beth yr ydych yn ei ddweud wrth y llys - a hefyd ddehongli beth sy'n cael ei ddweud wrthych chi. Gall y swyddog gwasanaethau cwsmeriaid eich helpu chi i drefnu hyn.

Gwybodaeth a chyngor pellach

Yn gyntaf, dylech gysylltu â swyddog gwasanaeth i gwsmeriaid y llys y byddwch yn mynd iddo. Gallwch gael manylion am sut i gysylltu â'r llys ar unrhyw ohebiaeth a anfonir atoch neu drwy wasanaeth canfod llysoedd ar-lein Gwasanaeth Llysoedd EM.

Mae gan rai llysoedd DVDs neu fideos cyflwyniadol mewn iaith arwyddion neu gydag is-deitlau. Yn ogystal ag Iaith Arwyddion Prydain, efallai ei fod yn bosibl cael DVDs sy'n defnyddio mathau eraill o iaith arwyddion, megis Saesneg gyda Chymorth Arwyddion (SSE).

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag:

Customer Service Unit, Her Majesty’s Courts Service
5th Floor, Clive House, 70 Petty France
Llundain SW1H 9HD

Ffôn: 0845 4568770 neu 020 7189 2000
Ffacs: 020 7189 2732
Llinell Gymorth Anabledd/Ffôn Testun: Rhadffôn 0800 358 3506
E-bost: customerservicecshq@hmcourts-service.gsi.gov.uk

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU