Gall y rhan fwyaf o bobl rhwng 18 a 70 oed gael eu gwysio i wasanaethu ar reithgor. Fodd bynnag, mae rhai pobl nad ydynt yn gymwys i wneud gwasanaeth rheithgor.
Os nad ydych yn siwr a yw'r rhestr ganlynol yn berthnasol i chi, siaradwch â'ch meddyg neu gofynnwch i aelod o'r teulu neu ffrind ei hesbonio i chi.
Ni chewch wasanaethu ar reithgor os ydych yn dioddef neu wedi dioddef o anhwylder meddwl/problem iechyd meddwl ac, oherwydd y cyflwr hwnnw:
Os ydych wedi'ch galw i wasanaethu ar reithgor a bod angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.
Jury Summoning, Freepost LON 19669, Pocock Street, London SE1 0YG
Ffôn: 0845 8038003 (o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9.00 am -5.00 pm) Pris galwad lleol a godir am bob galwad.
e-bost: jurysummoning@hmcourts-service.gsi.gov.uk