Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mynd i lys os ydych chi’n ddall neu â nam ar eich golwg

Os ydych chi'n ddall neu gyda nam ar eich golwg, dylai'r llys ddarparu gwybodaeth am y cyfleusterau a'r cymorth cyfathrebu sydd ar gael i chi.

Cyfleusterau a gwasanaethau yn y llys

Dylech gael ymweld â'r llys cyn y bydd yn rhaid i chi fynychu'r llys yn ffurfiol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddod yn gyfarwydd â'r lle a gofyn unrhyw gwestiynau i'r swyddog gwasanaethau cwsmeriaid.

Gwybodaeth mewn fformatau eraill

Bydd tâp sain o'r enw 'Cyflwyniad i'r gwasanaeth llys' ar gael gan swyddog gwasanaethau cwsmeriaid y llys. Mae'r taflenni 'Tyst yn y Llys' a 'Dioddefwr Trosedd' hefyd ar gael gan y llys a'r heddlu, ar fformatau Braille a recordiad sain.

Y llys a'r heddlu fydd eich pwynt cyswllt cyntaf a gallant ddweud wrthych ba ffurflenni a thaflenni eraill sydd ar gael mewn ffurfiau eraill megis print bras a Braille. Neu, gallwch gysylltu ag:

Customer Service Unit, Her Majesty’s Courts Service
5th Floor, Clive House, 70 Petty France
Llundain SW1H 9HD
Ffôn: 0845 4568770 neu 020 7189 2000
Ffacs: 020 7189 2732
Llinell Gymorth Anabledd/Ffôn Testun: Rhadffôn 0800 358 3506
E-bost: customerservicecshq@hmcourts-service.gsi.gov.uk

Cŵn tywys a chymorth

Caniateir cŵn tywys a chymorth yn ystafell y llys. Gall y diwrnod fod yn hir mewn llys, yn enwedig os byddwch yn aelod o'r rheithgor. Os oes angen, dylai fod yn bosibl i rywun ofalu am eich ci tra'ch bod yn y llys ei hun.

Os bydd y sesiwn yn y llys yn hir a bod angen seibiant ar eich ci, efallai y bydd angen i chi drefnu hyn gyda'r barnwr trwy staff y llys.

Efallai y gall rhywun fynd â'ch ci am dro hefyd.

Os oes angen unrhyw un o'r gwasanaethau hyn arnoch, cysylltwch ag aelod o staff y llys a byddant yn gallu trafod eich gofynion a gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a phobl ddall

Mewn rhai amgylchiadau, mae'r Ddeddf uchod yn galluogi cyrff cyhoeddus i gyfiawnhau rhoi triniaeth lai ffafriol i sicrhau y ceir cydbwysedd teg rhwng hawliau pobl anabl a phryderon ehangach.

Er enghraifft, mae'n debyg y gellir cyfiawnhau penderfyniad i beidio â galw person dall i wasanaethu ar reithgor mewn achos penodol lle teimlir ei bod yn hanfodol bod y rheithgor yn gweld y dystiolaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU