Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mynd i lys os oes gennych chi nam ‘cudd’

Efallai eich bod yn poeni am fynd i'r llys ac efallai y teimlwch y bydd y straen yn gwneud cyflwr meddygol neu nam yn waeth. Efallai fod angen i chi gymryd egwyl yn rheolaidd neu gymryd meddyginiaeth.

Namau ‘cudd’

Mae nam cudd yn cynnwys anableddau nad ydynt efallai'n amlwg i bobl eraill - er enghraifft nam symudedd bychan, diabetes, epilepsi, canser neu ddyslecsia.

Pethau i feddwl amdanynt

gallwch ymweld â'r llys cyn y bydd yn rhaid i chi fynychu'n ffurfiol

Mae gan bob llys swyddogion cymorth cyntaf sydd wedi'u hyfforddi i gynorthwyo pobl sy'n mynd yn wael yn y llys. Os oes gennych bryderon, siaradwch â 'swyddog gwasanaethau cwsmeriaid' y llys neu dywedwch wrth y sawl sydd ar y dderbynfa y bydd angen cymorth arnoch o bosib.

Gallwch ymweld â'r llys cyn y bydd yn rhaid i chi fynychu'r llys yn ffurfiol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddod yn gyfarwydd â'r lle a gofyn unrhyw gwestiynau i'r swyddog gwasanaethau cwsmeriaid.

Os yw eich nam neu gyflwr meddygol yn debygol o effeithio arnoch yn ystod gwrandawiad, dywedwch wrth y tywysydd/clerc y llys cyn i'r gwrandawiad ddechrau. Er enghraifft, efallai bydd angen i chi eistedd i lawr wrth gyfarch y barnwr neu'r ynad.

Dyma enghreifftiau o gymorth i ofyn amdano:

  • cwestiynau yn cael eu darllen yn uchel i chi er mwyn gallu llenwi ffurflen
  • os oes gennych nam ar eich lleferydd, cael rhywun i siarad ar eich rhan
  • cael rhywun gyda chi trwy'r amser a fydd yn gallu'ch helpu gyda phethau megis dal papurau
  • gallu bwyta neu yfed ar adegau rheolaidd yn ystod y gwrandawiad oherwydd eich bod yn ddiabetig

Os oes unrhyw un o'r uchod yn berthnasol i chi, rhowch wybod i'r llys cyn gynted â phosibl.

Angen rhagor o wybodaeth neu gyngor?

Y swyddog gwasanaethau cwsmeriaid ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf yn y llys. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:

Customer Service Unit, Her Majesty’s Courts Service
5th Floor, Clive House, 70 Petty France
London SW1H 9HD

Rhif Ffôn: 0845 4568770 neu 020 7189 2000
Ffacs: 020 7189 2732
Llinell Gymorth Anabledd/Ffôn Testun: Rhadffon 0800 358 3506
E-bost: customerservicecshq@hmcourts-service.gsi.gov.uk

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU