Ar rai achlysuron, efallai y bydd yr heddlu'n gweithredu os teimlant fod unigolyn angen gofal neu reolaeth yn syth. Mae'r pwer ganddynt i symud unigolyn i 'fan diogel' er ei ddiogelwch eich hun, neu er mwyn diogelu eraill.
Mae rhan o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (adran 136) yn delio gyda symud person sy'n dioddef o salwch meddwl o fan cyhoeddus i fan diogel. Mae'n rhoi manylion pwerau'r heddlu a hawliau person yn y sefyllfa honno.
Dylai’r heddlu, yr awdurdod iechyd a'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gytuno ar bolisi lleol gyfer gweithredu adran 136 y Ddeddf. Er enghraifft, dylai'r heddlu wybod â phwy i gysylltu yn yr ysbyty lleol ac yn yr adran gwasanaethau cymdeithasol.
Gall y man diogel fod yn ysbyty neu orsaf heddlu.
Trwy fynd â pherson i fan diogel, bydd y person yn cael ei asesu gan feddyg ac yn cael ei gyfweld gan weithiwr proffessiynol ym maes iechyd cymeradwy.
Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd cymeradwy wedi'u hyfforddi’n arbennigol ym maes iechyd meddwl a'r gyfraith sy'n berthnasol i'r maes hwnnw. Fe'u penodir gan awdurdodau lleol i gyfweld pobl ac asesu'u lles.
Gellir cadw rhywun am hyd at 72 awr (tri diwrnod). Erbyn hynny, dylai unrhyw drefniadau angenrheidiol ar gyfer triniaeth a gofal yr unigolyn fod wedi'u gwneud.
Os yw'r heddlu'n symud person dan adran 136 o'r Ddeddf i orsaf heddlu, mae gan y person sy'n cael ei symud yr hawl i:
Dylai’r 'oedolyn priodol' fod yn annibynnol o’r heddlu a dylai fod yn brofiadol yn delio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Gallai fod yn berthynas i'r person neu rywun sy'n gyfrifol am eu gofal.
Ni ddylai'r heddlu cyfweld y person hyd nes y bydd oedolyn priodol yn bresennol oni fyddai oedi'n peri risg o anaf neu niwed i bobl neu eiddo.