Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Teithio mewn awyren os oes gennych chi anhawster symud

Os oes gennych chi anhawster symud, gall teithio mewn awyren fod yn brofiad pleserus o hyd. Y peth pwysig yw cynllunio ymlaen llaw a rhoi gwybod i'r cwmni awyrennau pa gymorth y byddwch ei angen ganddynt.

Mae'r rhan fwyaf o feysydd awyr yn cyhoeddi gwybodaeth am gyfleusterau'r maes awyr, gan gynnwys rhai ar gyfer pobl anabl a phobl ag anawsterau symud. Yn aml, gallwch gael mapiau o adeiladau terminal y maes awyr, meysydd parcio a chynlluniau gorsafoedd trafnidiaeth gyhoeddus gan gwmnïau bysus a threnau.

Archebu a hysbysu ymlaen llaw

Os bydd angen cymorth arnoch, sicrhewch eich bod yn rhoi cymaint â phosib o rybudd i'r cwmni. Drwy wneud hyn, gall y cwmni hedfan gynllunio ymlaen llaw a chael y staff a/neu'r offer iawn yn eu lle ar yr amser iawn ac yn y lle iawn.

Hyd yn oed os ydych chi fel arfer yn annibynnol, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch pan fyddwch yn hedfan. Er enghraifft, os oes gennych chi anawsterau cerdded, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cadair olwyn neu fygi i fynd i'r giât gan fod pellteroedd mawr i'w cerdded mewn maes awyr yn aml.

Dylai meysydd awyr a chwmnïau hedfan wneud popeth sy'n rhesymol bosibl i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi.

Pobl sy'n defnyddio cadair olwyn

Pan fyddwch yn archebu'ch tocyn, gofynnwch i'r cwmni hedfan a allant gludo'ch cadair olwyn neu'ch sgwter. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych gadair olwyn neu sgwter gyda motor.

Rhaid i'r seddi ar awyren fodloni rheoliadau diogelwch yr awyr. Oherwydd hyn, allwch chi ddim mynd â'ch cadair olwyn eich hun ar fwrdd awyren. Bydd yn cael ei storio yn howld yr awyren.

Dylech allu aros yn eich cadair olwyn eich hun hyd nes i chi gyrraedd ochr yr awyren. Bydd angen i chi wedyn drosglwyddo i gadair arbennig i fynd ar yr awyren.

Bydd y man lle byddwch yn gorfod newid cadeiriau yn amrywio mewn gwahanol feysydd awyr a bydd yn dibynnu ar ba gyfleusterau ac offer sydd ar gael i staff symud eich cadair olwyn i'r awyren.

Os ydy'r awyren wedi'i chysylltu â'r terminal gyda 'phont-awyr' neu dwnnel, dylech allu aros yn eich cadair olwyn eich hun hyd nes i chi gyrraedd drws yr awyren, gan na fydd grisiau i mewn i gaban yr awyren.

Os nad ydy'r awyren wedi'i pharcio ger y terminal, bydd rhaid i'r teithwyr ddefnyddio grisiau i fynd ar yr awyren. Bydd rhaid i chi drosglwyddo i gadair drosglwyddo arbennig neu gadair olwyn i'w defnyddio ar yr awyren yn y giât ymadael, neu ar y ddaear y tu allan i'r awyren neu yn y cerbyd a'ch hebryngodd at yr awyren.

Os oes angen pacio'ch cadair olwyn yn arbennig, efallai y bydd angen i chi drosglwyddo i gadair o eiddo'r maes awyr wrth gofrestru. Mae hyn yn aml yn berthnasol i sgwteri neu gadeiriau olwyn gyda motor.

Yswiriant teithio

Cyn ichi deithio, dylech sicrhau bod eich yswiriant teithio'n darparu yswiriant digonol ar gyfer eich cadair olwyn.

Polisïau cwmnïau hedfan

Gall rhai cwmnïau hedfan ofyn i chi brofi pam fod angen rhai cyfleusterau neu wasanaethau arnoch, megis lle ychwanegol i'r coesau. Mae hyn yn eu helpu i roi blaenoriaeth i'r rhai sydd wirioneddol angen y cyfleusterau hyn, gan mai nifer gyfyngedig sydd ar gael yn aml.

Mae gan wahanol gwmnïau hedfan wahanol bolisïau. Bydd y cwmni hedfan neu'r trefnydd teithiau yn dweud wrthych adeg archebu pa wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu.

Hefyd, mae gan y cwmni hedfan hawl i fynnu bod teithiwr yn teithio gyda chydymaith os nad yw'r teithiwr yn gallu gofalu amdano'i hun. Er mwyn gallu teithio ar eich pen eich hun, dylech allu symud o sedd ar yr awyren i gadair olwyn ar fwrdd yr awyren, gan na chaiff y criw godi teithwyr i mewn ac allan o'u seddi am resymau iechyd a diogelwch.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU