Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethau meysydd awyr a chwmnïau hedfan ar gyfer teithwyr anabl

Os bydd arnoch angen cymorth gan staff maes awyr neu gwmni awyrennau ar unrhyw adeg o'ch taith, dylech bob amser roi gwybod i'r cwmni awyrennau o leiaf 24 awr cyn hedfan.

Gwasanaethau ar gyfer teithwyr anabl

Dylai'r gwasanaethau hyn fod ar gael os oes gennych anabledd dysgu, corfforol neu synhwyraidd:

  • cymorth i gyrraedd y man cofrestru
  • cymorth gyda chofrestru
  • rhoi gwybod i chi ac unrhyw gydymaith am y drefn mewn argyfwng a chynllun y caban
  • cymorth i fynd ar yr awyren ac oddi arni
  • cymorth i gadw'ch bagiau ar yr awyren
  • darparu cadair olwyn ar yr awyren (ddim ar gael bob amser)
  • rhywun i'ch cyfarfod pan fydd yr awyren yn glanio a'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas y maes awyr

Seddi ychwanegol

Os oes angen i chi deithio gyda chydymaith, efallai y bydd y cwmni awyrennau yn gallu cynnig ail docyn am bris gostyngol. Bydd hwn fel arfer yn ostyngiad ar y pris llawn.

Efallai mai dim ond nifer fechan o seddi am bris llai y gallant eu cynnig ar un daith, yn enwedig gyda gwyliau pecyn neu daith siarter. Gofynnwch i’ch trefnydd teithiau neu'r cwmni awyrennau am ragor o fanylion.

Gall yr un cyfyngiad fod yn berthnasol mewn achosion lle mae angen i'r teithiwr anabl ddefnyddio dwy sedd am reswm sy'n gysylltiedig â'i anabledd. Efallai bydd angen tystiolaeth feddygol ar gwmnïau awyrennau i brofi eich bod angen teithio â chydymaith neu archebu sedd ychwanegol.

Gofynion cwmnïau awyrennau os oes gennych anghenion cymorth neu feddygol

Ffurflenni cwmnïau awyrennau
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth gan staff cwmnïau awyrennau neu os oes gennych anghenion meddygol, efallai bydd y cwmni awyrennau'n gofyn i chi lenwi ffurflen Cyngor wrth Drin Teithwyr Anabl (INCAD) a/neu Ffurflen Wybodaeth Feddygol (MEDIF). Dyma'r ffurflenni safonol a ddefnyddir gan amryw o gwmnïau awyrennau er mwyn cynorthwyo staff i drefnu unrhyw gymorth neu offer y gallai fod eu hangen arnoch yn ystod y daith ac i benderfynu a ydych yn abl i deithio. Gyda rhai cwmnïau awyrennau bydd INCAD a MEDIF yn ffurfio dwy ran o'r un ffurflen.

Gallwch lenwi ffurflen INCAD eich hun, ond mae'n rhaid i'ch meddyg lenwi'r ffurflen MEDIF.

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn gorfod llenwi ffurflen MEDIF, nac yn gorfod gwneud cais am ganiatâd gan feddyg i hedfan drwy unrhyw drefn arall y gallai'r cwmni awyrennau ei chael. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd ag anableddau sefydlog a chyflyrau meddygol hirdymor.

Dylech gysylltu â'r cwmni awyrennau a thrafod eich anabledd neu'ch cyflwr meddygol â nhw - hyd yn oed os yw'ch meddyg yn dweud ei bod yn iawn i chi hedfan - oherwydd bydd gan gwmnïau awyrennau wahanol bolisïau ynghylch cario teithwyr anabl a phobl sydd â chyflyrau meddygol. Bydd y cwmni awyrennau yn gallu rhoi i chi unrhyw ffurflenni sydd angen eu llenwi. Gallwch hefyd gael y ffurflenni hyn gan rai trefnwyr teithiau.

Cerdyn Meddygol ar gyfer Teithwyr Mynych
Dim ond ar gyfer un daith y gellir defnyddio ffurflen MEDIF a ffurflen INCAD. Os byddwch yn teithio'n aml, gallwch gael Cerdyn Meddygol ar gyfer Teithwyr Mynych (FREMEC). Gellir cael hwn gan nifer o gwmnïau awyrennau ac mae'n rhoi cofnod parhaol o'ch anghenion penodol i'r cwmni. Golyga hyn na fydd angen i chi lenwi ffurflen a gwneud trefniadau arbennig bob tro y byddwch yn hedfan. Cyn i chi deithio â chwmni awyrennau gwahanol i'r un a roddodd gerdyn FREMEC i chi, dylech wneud yn siŵr y byddant yn ei dderbyn.

Teithio ar eich pen eich hun
Mae gan gwmnïau awyrennau hawl i fynnu eich bod yn teithio â chydymaith, os nad ydych yn ‘hunanddibynnol’. I deithio ar eich pen eich hun, mae gofyn eich bod yn gallu gwneud y canlynol:

  • anadlu heb gymorth (heb fod yn ddibynnol ar gyflenwad ocsigen ychwanegol)
  • bwydo eich hun (er y gwnaiff criw'r caban agor pecynnau i chi, a disgrifio sut mae bwyd wedi ei osod ar hambwrdd i deithwyr dall)
  • symud eich hun rhwng sedd i deithiwr, a chadair olwyn sydd ar awyren, gan gyfathrebu â chriw'r caban a deall y cyngor a'r cyfarwyddiadau a roddant
  • defnyddio toiled heb gymorth (er y gallai criw'r caban wthio cadair olwyn ar yr awyren i'ch helpu i gyrraedd y toiled)
  • rheoli eich meddyginiaeth a'ch trefn feddygol eich hun

Tystiolaeth o'ch angen am driniaeth arbennig
Efallai bydd rhai cwmnïau awyrennau yn gofyn i chi brofi bod angen rhai cyfleusterau arnoch - megis sedd ychwanegol yn rhatach os oes angen i chi deithio â chydymaith, neu fwy o le i'ch traed. Mae gan wahanol gwmnïau awyrennau wahanol ofynion, felly dylech holi'r cwmni awyrennau neu'r trefnwr teithiau pa wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi. Gallai hyn fod yn llythyr gan eich meddyg neu'n drwydded parcio Bathodyn Glas, er enghraifft.

Cod ymarfer ar gyfer teithio mewn awyren

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi cod ymarfer sef 'Access to Air Travel for Disabled People'. Ei nod yw hwyluso teithio ar awyren i bobl anabl. Mae'n sôn am y daith i gyd, o'r broses o gael gwybodaeth wrth drefnu i gyrraedd pen y daith.

Mae'r cod ymarfer yn god gwirfoddol ar gyfer diwydiant hedfan y DU, gan gynnwys trefnwyr teithio, asiantau teithio, cwmnïau hedfan, staff sy'n ymdrin â'r awyrennau, cynllunwyr awyrennau a meysydd awyr.

Mae'r cod yn nodi'r arfer da sydd ei angen er mwyn sicrhau bod pobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig yn mwynhau gwasanaeth cyson a di-dor wrth hedfan.

Mae'r cod yn cael ei adolygu ar hyn o bryd er mwyn adlewyrchu ar y goblygiadau cyfreithiol newydd sydd yn Rheoliad Ewrop ar hawliau pobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig wrth hedfan.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU