Gwneir archwiliadau diogelwch ar bob teithiwr a phob bag cyn mynd ar awyren. Nid yw pobl anabl ac offer symudedd megis cadeiriau olwyn wedi'u heithrio rhag yr archwiliadau hyn.
Dylai'r staff diogelwch fod yn ymwybodol o sawl peth i sicrhau bod yr archwiliad yn cael ei gynnal yn yr un ffordd ag ar gyfer teithwyr eraill, gan ystyried eich anabledd a/neu eich anghenion meddygol.
Mae'n bwysig rhoi gwybod i staff diogelwch am unrhyw anabledd neu gyflwr meddygol sydd gennych a all effeithio ar y ffordd y cynhelir yr archwiliad. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer unrhyw anableddau cudd megis diabetes neu anawsterau dysgu.
Rhowch wybod i staff os oes unrhyw ran o'r broses yn anghyfforddus - er enghraifft, os ydych mewn poen wrth godi'ch breichiau.
Dylai'r staff diogelwch:
Dylai staff diogelwch fod yn ymwybodol o rai pethau wrth archwilio pobl gydag anableddau penodol. Er enghraifft, os oes gennych anabledd corfforol, dylech gael cymorth i godi eich bagiau ar y peiriant pelydr-x a'u tynnu i ffwrdd.
Os ydych yn ddall neu â nam ar eich golwg, gofynnwch am i dyst fod yn bresennol os bydd eich bag yn cael ei archwilio. Hefyd, dylai eich bag gael ei ailbacio yn union fel ag yr oedd.
Ni ddylai staff diogelwch dynnu sylw at feddyginiaethau a dylent eu hailbacio'n ofalus. Os ydych chi'n cario unrhyw feddyginiaeth neu gyflenwadau meddygol wrth deithio (yn enwedig chwistrelli/nodwyddau a nifer fawr o feddyginiaethau) mae'n syniad da eich bod yn cael llythyr gan eich meddyg yn egluro beth ydynt a pham fod eu hangen arnoch. Dylech hefyd hysbysu eich cwmni awyrennau os byddwch yn cario chwistrelli/nodwyddau yn eich bag llaw neu yn eich cês.