Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Cynllun Mynediad Cenedlaethol

Nod y Cynllun Mynediad Cenedlaethol yw helpu darparwyr gwasanaethau yn y diwydiant twristiaeth i hwyluso mynediad at eu gwasanaethau ac annog mwy o bobl anabl i'w defnyddio.

Y cynllun a'i safonau cysylltiedig

Mae safonau'r cynllun yn darparu canllawiau ynghylch sut i wneud addasiadau rhesymol i wasanaethau er mwyn cwrdd ag anghenion pobl anabl. Maent wedi'u rhannu'n dri chategori o safonau, ar gyfer:

  • pobl ag anabledd corfforol
  • pobl ddall neu bobl â nam ar eu golwg
  • pobl fyddar neu bobl drwm eu clyw

Cynrychiolir y safonau unigol gan symbolau y gellir eu harddangos yn gyhoeddus a'u defnyddio mewn llenyddiaeth hyrwyddo. Gellir cael gwybodaeth am y cynllun, a lluniau o'r symbolau, oddi ar wefan VisitBritain.

Drwy gyflwyno ychydig neu fwy o newidiadau sydd ar gael yn y cynllun, gall busnesau gynyddu nifer y bobl anabl sy'n ymweld â nhw, ac yn defnyddio gwasanaeth. Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl i fusnesau, gan gynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais, ar wefan masnach twristiaeth VisitBritain.

Hefyd, gall darparwyr llety lwytho dogfennau mewn fformat pdf oddi ar y we sy'n eu helpu i arolygu eu hunain, er mwyn asesu statws presennol eu busnes.

Dod o hyd i lety a gwasanaethau hwylus

Elusen genedlaethol yw Tourism for All, sy'n darparu gwybodaeth ynghylch llety a gwasanaethau twristiaeth eraill yn y DU sy'n hwylus i bobl anabl a phobl hŷn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU