Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ar ôl eich canlyniadau Safon Uwch: cwestiynau poblogaidd

Mae'r dudalen hon yn rhestru rhai o'r cwestiynau a ofynnir amlaf gan fyfyrwyr sydd newydd gael eu canlyniadau lefel A a lefel AS, ac yn rhoi cyfarwyddyd i chi ynghylch lle mae dod o hyd i atebion.

Methu â chael y canlyniadau yr oeddech yn eu disgwyl

Beth ddylech chi ei wneud os na chewch chi'r graddau sy'n ofynnol ar gyfer eich cwrs mewn prifysgol?

Mae'n werth gweld a yw'r sefydliad yn fodlon cadarnhau eich lle beth bynnag, yn enwedig os oeddech chi'n agos iawn at y graddau gofynnol.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth 'Trac' i weld a yw'ch lle wedi'i gadarnhau. Os mai dim ond o drwch blewyn yr ydych wedi methu â chyrraedd amodau eich cynnig, ffoniwch y brifysgol.

Mae Trac yn eich galluogi i weld sut mae'ch ceisiadau prifysgol yn dod yn eu blaen. I'w ddefnyddio, bydd arnoch angen eich rhif cais UCAS ac enw defnyddiwr a chyfrinair Trac.

Os llanwoch chi eich cais ar-lein, bydd eich enw defnyddiwr a chyfrinair Trac yr un fath â'r rhai a ddefnyddioch i wneud cais.

Os ydych yn aflwyddiannus gyda'ch dewis cyntaf, ond yn diwallu amodau eich ail ddewis, cewch eich derbyn yno.

I gael mwy o wybodaeth am 'Trac' gweler yr erthygl 'Newid eich cais i UCAS'.

Derbyn cynnig gan brifysgol neu goleg

Allwch chi wrthod cynnig cadarn am le er mwyn derbyn cynnig wrth gefn?

Gan eich bod wedi gwneud ymrwymiad i'ch cynnig cadarn yn wreiddiol, chewch chi ddim gwrthod eich lle ar y cam hwn. Os yw eich dewis cadarn eisoes wedi cadarnhau eich lle, byddant wedi hysbysu eich dewis wrth gefn – ac efallai y bydd eich dewis wrth gefn wedi cynnig eich lle chi i rywun arall.

Sicrhewch fod eich dewis wrth gefn yn fodlon eich ystyried drwy'r broses Clirio, yna cysylltwch â'ch dewis cadarn i egluro'r sefyllfa. Os yw eich dewis cadarn yn cytuno i'ch rhyddhau, bydd UCAS yn anfon Pasport Clirio atoch. Yna, bydd angen i chi anfon y Pasport Clirio at eich cynnig wrth gefn er mwyn cadarnhau'r lle.

Ni allwch dderbyn eich cynnig wrth gefn heb gael eich rhyddhau gan eich cynnig cadarn.

Y Drefn Glirio

mae mwy na 30,000 o bobl yn cael lle mewn prifysgol neu goleg drwy'r drefn glirio bob blwyddyn

Pryd gewch chi Basport Clirio?

Os ydych chi wedi cwblhau cais UCAS ac os nad oes gennych unrhyw gynigion gan eich cais UCAS cyntaf, fe gewch eich Pasport Clirio ym mis Gorffennaf. Fel arall, fe gewch un cyn gynted ag y dewch yn gymwys ar gyfer y drefn Glirio – mewn geiriau eraill, os yw'r sefydliadau'n eich gwrthod.

Bydd angen Pasport Clirio arnoch i dderbyn cynnig cwrs yn swyddogol, ond gallwch ffonio prifysgolion cyn iddo gyrraedd beth bynnag i weld a fyddant yn cynnig lle i chi.

Gewch chi dderbyn mwy nag un cwrs ar eich Pasport Clirio?

Na chewch. Cewch siarad â chymaint o brifysgolion a cholegau ag yr hoffwch yn ystod y broses Glirio, ond dim ond un cwrs gewch chi ei dderbyn gyda'r Pasport Clirio. Cyn gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis yr un iawn.

Ailsefyll ac ail-farcio arholiadau

Allwch chi ail-wneud eich arholiadau Safon UG/Safon Uwch er mwyn gwella'ch marciau?

Gofynnwch am gyngor gan eich athrawon yn yr ysgol i ddechrau, a siaradwch â'ch rhieni. Gallwch hefyd drafod eich opsiynau gyda chynghorydd Connexions neu gynghorydd gyrfa.

Y cam nesaf yw cysylltu â thiwtoriaid mynediad y cyrsiau yr ydych yn gwneud cais i fynd arnynt. Cofiwch, gydag ailsefyll arholiadau, y gallant ofyn am raddau uwch na'r graddau a nodwyd yn y cynnig sylfaenol, ac efallai y byddant eisiau i'ch holl raddau ddod o un eisteddiad.

Mae digon o ddewisiadau ar gael o ran prifysgolion ac addysg uwch – sicrhewch eich bod yn archwilio pob un ohonynt.

Sut y gellir ail-farcio eich Safon UG/Safon Uwch?

Trafodwch y mater gyda'ch athrawon cyn gynted ag sy’n bosibl. Rhaid i'r sefydliad lle safoch chi'r arholiad benderfynu a ydynt am wneud cais am ail-farcio ar eich rhan: chewch chi ddim gwneud cais yn uniongyrchol i gorff dyfarnu.

Blynyddoedd bwlch

Beth yw’r dewisiadau wrth gymryd blwyddyn fwlch?

Cyn penderfynu cymryd blwyddyn fwlch, gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod eich cynlluniau gyda thiwtor derbyn y cwrs yr ydych wedi'i ddewis.

Os penderfynwch fwrw 'mlaen, mae eich dewisiadau'n cynnwys gwneud gwaith gwirfoddol, gweithio dramor a dilyn cwrs. I gael mwy o syniadau, ewch i 'Trefnu blwyddyn fwlch'.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU