Os ydych chi dan 20 oed a bod gennych un neu fwy o blant, gall Gofal i Ddysgu helpu gyda chostau gofal plant wrth i chi ddysgu.
Hyd at £160 ar gyfer pob plentyn bob wythnos (£175 yn Llundain) i dalu am gostau gofal plant
Os ydych chi'n rhiant ifanc, gall Gofal i Ddysgu helpu i dalu am ofal plant a chostau teithio tra'ch bod chi'n dysgu.
Chi sydd i benderfynu pa bwnc neu gwrs yr ydych am ei ddilyn. Gallwch ddewis, er enghraifft, a ydych yn dymuno cael cymhwyster ai peidio, neu p'un ai mewn coleg neu drwy weithio yr ydych am ddysgu.
Lle bynnag y byddwch yn dysgu, gallwch fod yn hyderus bod eich plentyn yn cael ei warchod yn ddiogel.
Mae'r tudalennau hyn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am Ofal i Ddysgu. Os hoffech siarad â rhywun i weld a ydych yn gymwys, neu i gael help i wneud cais, gallwch naill ai:
Pan fyddwch yn cael Gofal i Ddysgu, eich penderfyniad chi yw beth yr ydych am ei ddysgu.
Gallech ddewis mynd ar gwrs neu ymgymryd â rhaglen ddysgu sy'n para am ychydig ddyddiau'n unig, neu un sy'n para am nifer o flynyddoedd. Nid oes oriau pendant, felly gallech astudio'n rhan-amser neu'n llawn amser.
Tra'ch bod yn dysgu, gallech helpu i adeiladu gwell dyfodol i chi a'ch teulu.
Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â lefelau sgiliau a chymwysterau uwch, a dengys yr ymchwil diweddaraf fod pobl sydd â chymwysterau yn tueddu i ennill mwy na'r rhai sydd heb gymwysterau. Byddwch hefyd yn cwrdd â phobl newydd ac yn gwneud ffrindiau newydd, yn cael mynd allan o'r tŷ ac yn cael cyfle i fagu mwy o hyder a bod yn fwy annibynnol efallai.
Y peth pwysicaf yw eich bod yn dewis rhywbeth sy'n gweddu i chi ac sydd o ddiddordeb i chi.
Dod o hyd i gwrs
Gallwch ddefnyddio Gofal i Ddysgu i dalu am eich gofal plant pa fath bynnag o gwrs dysgu y byddwch yn ei ddilyn, nid dim ond cyrsiau dysgu sy'n arwain at gymwysterau.
Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw dewis cwrs dysgu sy'n cael cyllid cyhoeddus.
Mae miloedd o gyfleoedd dysgu ar gael, yn amrywio o gyrsiau byr yn y gymuned a fyddai'n helpu i roi hwb i'ch hyder, i gwrs dwy flynedd yn eich coleg lleol.
Os ydych chi'n chwilio am syniadau neu am ysbrydoliaeth ynghylch pa fath o gwrs dysgu i fynd arno, gallech naill ai edrych ar yr erthygl, ‘Dewisiadau yn 16: beth sy’n iawn i chi’, neu gysylltu â Connexions Direct:
Pryderon ynghylch lles neu ddiogelwch? Ffoniwch linell gymorth Gofal i Ddysgu
Gall gadael i rywun arall edrych ar ôl eich plentyn fod yn gam mawr.
Mae Gofal i Ddysgu'n helpu drwy adael i chi ddewis y math o ofal plant sy'n fwyaf addas i chi ac i'ch plentyn.
Gallwch, er enghraifft, ddefnyddio Gofal i Ddysgu i dalu am ofal plant:
Yr unig amod yw bod y darparwr gofal plant wedi ei gofrestru. Rhaid i ddarparwyr gofal plant cofrestredig fodloni'r safonau cenedlaethol, ac fe fyddant yn cael eu harchwilio bob blwyddyn i wneud yn siŵr eu bod yn darparu gwasanaeth gofal o safon.
Os oes gennych unrhyw bryderon am les a diogelwch eich plentyn neu am eich lles a'ch diogelwch eich hun, cysylltwch â llinell gymorth Gofal i Ddysgu ar 0800 121 8989.
Dod o hyd i ofal plant
Os nad ydych yn sicr pa fath o ofal plant i'w ddefnyddio, gofynnwch am gyngor – mae holi eich Cynghorydd Connexions Personol neu'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol yn lle da i ddechrau.
Gallant helpu i drefnu eich bod yn cael ymweld â gwahanol ddarparwyr gofal plant i weld pa un sy'n diwallu'ch anghenion orau.
Yn ystod yr ymweliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon bod y lle yn addas ar gyfer eich plentyn chi. Efallai yr hoffech gael gwybod am y pethau hyn:
Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ofyn i'r darparwr gofal plant am gopi o'u 'Llyfryn Canllaw i Rieni', sy'n egluro beth maent yn ei wneud mewn gwahanol amgylchiadau.
Mae Gofal i Ddysgu wedi cynhyrchu Cod Ymarfer yn benodol ar gyfer darparwyr gofal plant. Mae hwn yn tynnu sylw at y materion y gallech chi fod yn eu hwynebu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am Ofal i Ddysgu, eich cam nesaf fydd canfod a ydych yn gymwys.