Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofal i Ddysgu: ydych chi'n gymwys?

Mae Gofal i Ddysgu yn cyfrannu hyd at £160 ar gyfer pob plentyn bob wythnos (£175 yn Llundain) tuag at eich costau gofal plant a'ch costau teithio tra'ch bod chi'n dysgu. Dewch i gael gwybod a ydych chi'n gymwys.

Ydych chi'n gymwys i gael Gofal i Ddysgu?

Gallwch hawlio arian Gofal i Ddysgu os ydych chi'n byw yn Lloegr ac yn gallu ateb y cwestiynau canlynol gyda “Ydy” neu “Ydw”.

Os ydych chi dal yn ansicr a ydych yn gymwys ai peidio, cysylltwch â llinell gymorth Gofal i Ddysgu.

Ydych chi dan 20 mlwydd oed?

I gael Gofal i Ddysgu, rhaid i chi fod dan 20 oed ar y diwrnod y mae eich cwrs neu'ch rhaglen ddysgu'n dechrau.

Cyn belled â'ch bod yn dechrau'r cwrs cyn i chi fod yn 20 oed, bydd Gofal i Ddysgu'n cyfrannu tuag at eich costau gofal plant nes i'ch cwrs ddod i ben.

Os ydych chi'n hŷn nag 20 oed, gallech gael cymorth gan Gronfa Cefnogi Dysgwyr eich coleg, neu gan y Cynllun Gofal Plant Chweched Dosbarth

Ydych chi'n gofalu am eich plentyn neu'ch plant eich hun?

I gael Gofal i Ddysgu rhaid i chi fod ar gwrs dysgu sy'n cael rhywfaint o gyllid cyhoeddus, neu'n ystyried dechrau ar gwrs o'r fath.

Mae'r dewisiadau dysgu yn cynnwys:

  • cyrsiau mewn ysgolion, mewn chweched dosbarth, mewn colegau chweched dosbarth, mewn colegau eraill a chan ddarparwyr dysgu eraill
  • cyrsiau Mynediad at Waith
  • rhaglenni dysgu yn y gwaith (statws di-waith)
  • cyrsiau yn y gymuned, mewn Canolfannau Plant er enghraifft, neu ryw fath arall o ddysgu yn y gymuned

Dim ond ar gyfer cyrsiau yn Lloegr y cynigir nawdd. 

Ni ellir cael nawdd Gofal i Ddysgu ar gyfer cyrsiau prifysgol a chyrsiau addysg uwch – i gael mwy o wybodaeth am gymorth gyda chostau gofal plant mewn addysg uwch, dilynwch y ddolen isod.

"Er i mi gael plentyn yn 17 oed, dwi dal yn gallu cael yr yrfa yr ydw i wedi bod ei heisiau erioed"

Laura, 18

Ydy'ch cwrs dysgu'n gymwys?

I gael Gofal i Ddysgu, rhaid i chi ddefnyddio darparwr gofal plant sydd wedi ei gofrestru gydag Ofsted.

I ddarparwr gofal plant gael ei gofrestru, rhaid iddo gyrraedd safonau penodol, a rhaid i'r gofal a gynigir ganddo fod yn ddiogel ac o safon uchel. Gallai eich dewisiadau gynnwys gwarchodwr plant, meithrinfa ddydd, creche, neu glwb y tu allan i'r ysgol. Mae'n ofynnol bod perthnasau wedi'u cofrestru'n warchodwyr plant gydag Ofsted cyn y gellir talu Gofal i Ddysgu iddynt.

Ydy'ch darparwr gofal plant wedi ei gofrestru?

I gael Gofal i Ddysgu, rhaid i chi ddefnyddio darparwr gofal plant sydd wedi ei gofrestru gydag Ofsted.

I ddarparwr gofal plant gael ei gofrestru, rhaid iddo gyrraedd safonau penodol, a rhaid i'r gofal a gynigir ganddo fod yn ddiogel ac o safon uchel. Gallai eich dewisiadau gynnwys gwarchodwr plant, meithrinfa ddydd, creche, neu glwb y tu allan i'r ysgol.

Am beth mae Gofal i Ddysgu'n talu

"Newidiodd Gofal i Ddysgu fy mywyd yn llwyr"

Bernice,18

Bydd Gofal i Ddysgu'n talu hyd at £160 ar gyfer pob plentyn bob wythnos (£175 yn Llundain) er mwyn talu am y pethau hyn:

  • gofal plant tra'ch bod chi'n dysgu, ar leoliad, yn astudio'n breifat neu'n teithio at/oddi wrth y sawl sy'n darparu gofal plant ichi
  • unrhyw ffioedd cofrestru (hyd at £80) ac unrhyw flaendal a godir fel arfer (hyd at £250)
  • cyfnod o weld a ydy'ch plentyn yn hapus gyda'r darparwr gofal plant cyn i'r dysgu gychwyn
  • ffioedd gofal plant y gallai fod eu hangen arnoch i dalu am ofal yn ystod y gwyliau
  • costau teithio ychwanegol y mae'n rhaid i chi eu talu o bosib er mwyn mynd â'ch plentyn at y darparwr gofal plant

Bydd y darparwr gofal plant yn cael ei dalu'n uniongyrchol gan Gofal i Ddysgu. Telir unrhyw arian i'ch helpu gyda chostau teithio yn uniongyrchol i'r darparwr dysgu neu'r darparwr hyfforddiant yn rheolaidd, a byddant hwythau'n ei ad-dalu i chi.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Bydd angen i chi lenwi ‘Ffurflen Newid Mewn Amgylchiadau’ os yw cyfeiriad eich cartref, eich cwrs dysgu neu'ch darparwr gofal plant yn newid tra'ch bod yn cael Gofal i Ddysgu.

Am fwy o wybodaeth, gweler ‘Sut i wneud cais am Ofal i Ddysgu’.

Yr effaith ar fudd-daliadau neu lwfansau eraill

Ni fydd Gofal i Ddysgu'n effeithio ar eich budd-daliadau neu'ch lwfansau chi, nac ar rai eich teulu. Nid oes raid i chi fod ar fudd-daliadau i allu ei hawlio.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar daflenni ffeithiau Directgov sy'n edrych ar ddisgwyl plentyn neu fagu plant.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Gallech gael hyd at £30 yr wythnos o Lwfans Cynhaliaeth Addysg a bod yn gymwys i gael Gofal i Ddysgu yr un pryd.

Sut i wneud cais

I gael cymorth gyda gofal plant yn ystod eich dysgu, gwnewch gais am Ofal i Ddysgu cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu beth yr ydych am ei wneud.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU