Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i wneud cais am Ofal i Ddysgu

Mae'n hawdd gwneud cais am Ofal i Ddysgu: dilynwch y camau syml a welir isod.

Gofal i Ddysgu: cael trefn ar eich cais

"Wrth wneud cais, cefais yr hyder i gredu ynof fy hun."

Julie, 18

Gwnewch gais am Ofal i Ddysgu cynt gynted ag y byddwch yn penderfynu beth yr ydych am ei wneud. Dylech, yn arbennig, wneud yn siŵr eich bod yn dechrau dysgu cyn cael eich pen-blwydd yn 20 oed os ydych chi am elwa ar y cynllun.

Mae'r broses o wneud ceisiadau yn gyflym ac yn hawdd - fodd bynnag, os oes angen help arnoch, gallech gysylltu gydag un o'r canlynol:

  • Cynghorydd Connexions Personol
  • eich coleg, eich ysgol neu ddarparwr yr hyfforddiant
  • Cychwyn Cadarn

I gael gwybodaeth gyffredinol ynghylch pwy sy'n gymwys i gael Gofal i Ddysgu, cysylltwch â Llinell Gymorth Gofal i Ddysgu ar 0800 121 8989.


Cyn i chi wneud cais

Cyn gwneud cais am Ofal i Ddysgu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys drwy edrych ar y rhestr ar y dudalen, ‘Gofal i Ddysgu: ydych chi'n gymwys'.

Wrth wneud cais, bydd angen i chi wybod pa gwrs dysgu yr ydych yn gwneud cais amdano, a pha fath o ofal plant yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio. Fodd bynnag, nid oes angen cadarnhau eich lle ar y cwrs.

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod.


Llenwi ffurflen gais Gofal i Ddysgu

"Mae'n llawer haws mynd i'r ysgol gan wybod bod fy merch yn hapus ac yn cael gofal da."

Katie, 16

I wneud cais, mae angen i chi lwytho ffurflen gais oddi ar y we a'i llenwi. Holwch eich Cynghorydd Connexions, eich rhieni, eich gofalwyr neu rywun arall a all eich cynghori am gymorth i wneud hyn.

Rhaid i'r ffurflen hon gael ei llenwi a'i llofnodi:

  • gennych chi
  • gan ddarparwr y cwrs dysgu (eich ysgol, eich coleg neu ddarparwr yr hyfforddiant)
  • gan eich darparwr gofal plant

Bydd angen i chi fynd â thystysgrif geni eich plentyn, neu lyfr budd-daliadau eich plentyn, i ddarparwr y cwrs wneud llungopi ohonynt.

Bydd angen i'r darparwr gofal plant hefyd gyflwyno copi o'u tystysgrif cofrestru OfSTED gyda'r cais.

Os oes gennych fwy nag un darparwr gofal plant

Os ydych chi'n defnyddio mwy nag un darparwr gofal plant bydd angen atodiad arnoch hefyd i'r ail ddarparwr ei lenwi.


Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais

“Nawr gall y ddau ohonom edrych ymlaen at well dyfodol.”

Rhiann, 18

Ar ôl i'r tîm Gofal i Ddysgu gael eich ffurflen wedi ei llofnodi byddant yn edrych a yw pob rhan ohoni wedi ei llenwi.

Os ydyw, byddant yn ysgrifennu atoch o fewn pum diwrnod gwaith i'ch hysbysu chi a'ch darparwr gofal plant am y taliadau y byddant yn cael, a phryd y byddant yn cael y taliadau hynny.

Byddant hefyd yn dweud wrthych faint o gymorth teithio a delir i'r darparwr dysgu cyntaf ar eich ffurflen er mwyn helpu gyda'ch costau teithio.

Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i gymeradwyo'r cais, bydd yn cael ei ddychwelyd atoch gan ofyn am y wybodaeth sydd ar goll. Efallai yr anfonir y cais atoch dros yr e-bost (os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost) neu fe'i anfonir atoch drwy'r post.


Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os oes unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol wedi newid, bydd angen i chi lenwi Ffurflen ‘Newid Mewn Amgylchiadau’ gan nodi'r pethau canlynol:

  • eich cyfeiriad
  • darpariaeth gofal plant neu oriau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer dysgu ychwanegol
  • costau teithio i fynd at y darparwr gofal plant
  • rhaglen ddysgu
  • faint o oriau a dreuliwyd yn dysgu – efallai eich bod wedi anghofio cynnwys eich astudiaethau preifat, amser i adolygu ac amser i sefyll arholiadau

Efallai y bydd angen i chi roi mis o rybudd i'r sawl sy'n darparu gofal plant i chi cyn gadael.


I ble y dylech anfon eich ffurflen

Dylech anfon y ffurflen gais Gofal i Ddysgu a'r ffurflen newid mewn amgylchiadau at:

Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr / Learner Support Service, PO Box 4120, Sunlight House, Suite 301, 3rd Floor, Quay Street, Manchester, M3 3JZ

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU