Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pwy mae Gofal i Ddysgu wedi ei helpu?

Storïau gan rai o'r miloedd o bobl y mae Gofal i Ddysgu wedi eu helpu.

Bernice, 18 oed, Swindon

"Mae hyn wedi trawsnewid fy mywyd"

“Mae fy merch yn awr yn 15 mis oed, ac roedd arnaf wir eisiau mynd i'r coleg - ond doeddwn i ddim yn gwybod sut y gallwn wneud hynny oherwydd bod gennyf fabi.

“Diolch i Gofal i Ddysgu, rwy'n gallu astudio yng Ngholeg Newydd Swindon, lle rwyf yn dilyn gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rwy'n gobeithio mynd i faes nyrsio seiciatrig y flwyddyn nesaf.

“Wn i ddim lle i ddechrau mynegi fy hapusrwydd a'm diolch i Gofal i Ddysgu. Mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir.

“Heb y gefnogaeth byddwn wedi bod gartref yn gwneud dim, ac erbyn hyn, ni fyddai gennyf obaith mynd i'r coleg.

“Mae cymysgu gyda phlant eraill yn golygu bod fy merch wedi aeddfedu'n arw. Rwy'n falch bod Gofal i Ddysgu'n cynorthwyo mamau eraill fel fi, ac yn ein hannog i fynd yn ôl i'r coleg ac i gael addysg well.

“Mae hyn wedi newid fy mywyd yn llwyr, a gallaf yn awr weld dyfodol sy'n ddisglair.” 

Julie, 18 oed, Peterborough

"Wrth ddilyn y cwrs, cefais yr hyder i gredu ynof fy hun."

“Cyn cael babi, roedd gennyf 11 TGAU, ond roeddwn dal yn awyddus i barhau â'm haddysg. Roedd bod yn fam ifanc yn anodd, ond cefais yr hyder i gredu ynof fy hun wrth ddilyn y cwrs.

“Gyda'r cynghorydd Gofal i Ddysgu, rydw i wedi cael lle i Ben mewn meithrinfa heb orfod poeni dim. Erbyn hyn mae gennyf NVQ Lefel 1, ac rwy'n astudio ar gyfer Safon Uwch yn y coleg.

"Mae bod yn fam yn llawer haws yn awr gan fy mod yn gwneud rhywbeth i mi fy hun - rhywbeth buddiol i mi ac i'm mab.”

Rhiann, 18 oed, Swindon

“Nawr gall y ddau ohonom edrych ymlaen at ddyfodol gwell”

"Dwy ar bymtheg oed oeddwn i pan gefais i ferch fach. Roeddwn i wedi bwriadu mynd i'r coleg i gael mwy o addysg, ond wnes i erioed feddwl y byddai hynny'n bosib oherwydd cost gofal plant.

"Rhoddodd fy ymwelydd iechyd daflen Gofal i Ddysgu i mi, a oedd yn egluro sut yr oedd yn helpu mamau ifanc i ddychwelyd i fyd addysg.

"Penderfynais nad oedd dim a fyddai'n fy rhwystro rhag mynd i'r coleg os oeddwn am gael help â gofal plant. Erbyn hyn rwy'n barod i adael y coleg ar ôl astudio Cyfrifeg, Mathemateg, SAGE a Saesneg.

"Heb Gofal i Ddysgu, ni fyddwn wedi ennill y cymwysterau yr wyf wedi eu hennill, ni fyddai Isabel fy merch wedi cwrdd â'r holl ffrindiau sydd ganddi, ac yn awr gallwn edrych ymlaen at ddyfodol gwell gyda'n gilydd."

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU