Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grantiau Dawns a Drama: faint o arian allech chi ei gael

Os llwyddwch i gael Grant Dawns a Drama, bydd yn talu am y rhan fwyaf o'ch ffioedd dysgu, ond byddwch yn dal i orfod gwneud cyfraniad personol.

Grantiau Dawns a Drama: faint o arian allech chi ei gael?

Os byddwch yn cael Grant Dawns a Drama, bydd hwn yn talu am y rhan fwyaf o'ch ffioedd dysgu. Fodd bynnag, bydd angen i chi wneud cyfraniad personol tuag at eich ffioedd.

£1,250 yw'r cyfraniad personol ar gyfer blwyddyn academaidd 2008/2009.

Yn ogystal â'r grant Dawns a Drama, a roddir faint bynnag yw incwm eich cartref, efallai y gallwch hefyd gael cymorth ychwanegol i'ch helpu gyda'ch costau, yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw.

Myfyrwyr o Gymru, Lloegr a'r Alban

Os ydych chi'n dod o Gymru, Lloegr neu'r Alban, efallai y bydd modd i chi gael arian ychwanegol yn ogystal â'r Grant Dawns a Drama i'ch helpu gyda'ch costau byw a'ch costau gofal plant.

Bydd y swm ychwanegol a gewch yn dibynnu ar incwm blynyddol eich cartref.

Os yw incwm eich teulu dros £33,000, ni chewch ddim cymorth ychwanegol.

Mae’r tabl isod yn dangos faint o gymorth ychwanegol allwch chi ei gael tuag at ffioedd a chostau byw.

Incwm y cartref

Myfyrwyr yn byw gartref

Myfyrwyr sy'n byw mewn llety y tu allan i Lundain

Myfyrwyr sy'n byw mewn llety yn Llundain

Dan £21,000

£2,242

£4,711

£5,333

£21,001 - £23,000

£1,966

£3,933

£4,453

£23,001 - £25,000

£1,672

£3,129

£3,547

£25,001 - £27,000

£1,403

£2,355

£2,661

£27,001 - £30,000

£1,120

£1,565

£1,768

£30,001 - £33,000

£0

£742

£888

Myfyrwyr o'r tu allan i Gymru, Lloegr a'r Alban

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n hanu o wlad y tu allan i Gymru, Lloegr a'r Alban ond o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE), dim ond am gymorth ychwanegol gyda'ch ffioedd dysgu y cewch wneud cais amdano – nid gyda'ch costau byw.

Mae’r tabl isod yn dangos faint o gymorth y gallwch ei gael.

Os ydych chi'n hanu o wlad y tu allan i'r UE, ni fyddwch chi'n gymwys i gael Grant Dawns a Drama. Os byddwch chi'n gwneud cais i ysgol ddawns neu ysgol ddrama breifat, bydd yn rhaid i chi dalu'r holl ffioedd dysgu eich hun.

Bydd yn rhaid i chi wneud cais i'r awdurdodau yn eich mamwlad os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol.

Dylai myfyrwyr o Ogledd Iwerddon gysylltu â'u bwrdd Addysg a Llyfrgelloedd Lleol.

Incwm y cartref

Myfyrwyr nad ydynt yn hanu o Gymru, Lloegr a'r Alban: cymorth gyda ffioedd dysgu yn unig

Dan £21,000

£1,250

£21,001 - £23,000

£1,050

£23,001 - £25,000

£825

£25,001 - £27,000

£625

£27,001 - £30,000

£413

£30,001 - £33,000

DIM

Sut mae gwneud cais am Grant Dawns a Drama

I wneud cais am grant, bydd yn rhaid i chi gysylltu ag un o'r 21 ysgol hyfforddi breifat ym maes dawns a drama.

Mwy o wybodaeth

Mae’r wybodaeth hon ar gael hefyd mewn llyfryn y gallwch ei lwytho oddi ar y we ar ffurf PDF.

Gellir cael llyfrynnau ar ffurf copi caled:

  • drwy ffonio 0845 60 222 60
  • dewis opsiwn 4; a
  • dyfynnu'r cyfeirnod LSC-DD1

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y cynllun, cysylltwch â desg gymorth Grantiau Dawns a Drama.

Additional links

Sêr Dawns a Drama

Mae The Sound of Music, Stevie Wonder a Holby City i gyd yn gysylltiedig â'r Grantiau Dawns a Drama...

Allweddumynediad llywodraeth y DU