Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grantiau Dawns a Drama: sut mae gwneud cais

*

Rhoddir Grantiau Dawns a Drama i fyfyrwyr sy'n dangos y ddawn a'r potensial mwyaf yn eu clyweliad. Gan fod cyrsiau dawns a drama yn boblogaidd dros ben, mae'n bwysig eich bod yn anfon eich cais yn fuan.

Y clyweliad

"Hyd yn oed pan es i gartref roeddwn i'n meddwl am y cwrs. Roedd hi'n werth yr ymdrech."

Unwaith y byddwch wedi penderfynu pa gwrs yr ydych yn dymuno gwneud cais amdano ac i ba ysgol yr hoffech fynd, cysylltwch â nhw er mwyn gwneud cais am glyweliad, gan ddweud wrthynt eich bod eisiau gwneud cais am grant. Efallai y bydd yr ysgol yn anfon ffurflen gais atoch i chi ei chwblhau a'i dychwelyd i'r ysgol.

Gan fod y galw am y math hwn o hyfforddiant yn uchel, cysylltwch â'ch dewis ysgol yn fuan o flaen llaw er mwyn gwneud yn siŵr y caiff eich cais ei gysidro.

Rhoddir Grantiau Dawns a Drama i fyfyrwyr sy'n dangos y ddawn fwyaf yn y clyweliad, beth bynnag fo'u hamgylchiadau ariannol.

Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen

Unwaith y byddwch wedi derbyn Grant Dawns a Drama, ni allwch wneud cais eto oni bai bod yr amgylchiadau'n rhai prin iawn - felly mae'n bwysig eich bod wedi dewis yr ysgol a'r cwrs iawn cyn derbyn.

Os ydych chi wedi derbyn Grant o'r blaen a'ch bod yn gwneud cais eto, rhaid i chi roi gwybod i'r ysgol lle'r ydych yn gwneud cais, a rhoi rheswm iddynt. Dim ond mewn achosion eithriadol y dyfernir ail Grant, felly mae'n annhebygol y bydd eich cais yn llwyddiannus oni bai i chi gael eich gorfodi i roi'r gorau i'ch hyfforddiant blaenorol oherwydd rhesymau sy tu hwnt i'ch rheolaeth - er enghraifft, oherwydd salwch neu anaf.

Ni allwch wneud cais am ail Grant os ydych wedi cwblhau'r cwrs lle cawsoch eich Grant cyntaf, neu os byddai'r Grant cyntaf a'r ail gyda'i gilydd yn para am fwy na phedair blynedd.

Gallwch ddal i wneud cais am Grant Dawns a Drama os ydych chi eisoes wedi cael math arall o gymorth ariannol er mwyn dilyn cwrs addysg uwch neu addysg bellach.

Gwneud cais am gymorth gyda ffioedd a chostau byw

Pan fyddwch chi'n gwneud cais am Grant Dawns a Drama, dylai'r ysgol yr ydych yn gwneud cais iddi anfon ffurflen gais atoch hefyd i gael cymorth gyda chostau byw.

Bydd rhaid i chi wneud cais bob blwyddyn am gymorth ychwanegol gan fod y cyfraddau'n newid. Os byddwch yn derbyn arian ychwanegol, fe gaiff ei rannu'n dri thaliad y byddwch yn ei dderbyn ar ddechrau pob tymor.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Os na fuoch yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant, efallai y bydd arnoch eisiau apelio. Bydd angen i chi ysgrifennu at yr ysgol y bu i chi wneud cais iddi er mwyn cael esboniad o'u penderfyniad.

Mae'n bosibl y cewch barhau i astudio yn yr ysgol neu'r coleg o'ch dewis hyd yn oed os na fyddwch yn derbyn Grant Dawns a Drama, ond bydd yn rhaid i chi dalu'r ffioedd hyfforddi eich hun. Fodd bynnag, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol drwy wneud cais am fenthyciad datblygu gyrfa os ydych dros 18.

Os byddwch chi'n derbyn Grant ond eich bod yn credu y dylech gael rhagor o gymorth gyda'ch costau byw, bydd angen i chi apelio at y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr sy'n asesu pob cais am gymorth gyda chostau byw. Anfonwch lythyr atyn nhw gan ofyn iddynt adolygu'ch cyfrifiad.

Gwneud cais os ydych chi'n anabl

Os ydych chi'n anabl, efallai bod gennych hawl i gael cymorth ariannol ychwanegol.

Gwybodaeth bellach

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael mewn llyfryn y gallwch ei lwytho mewn fformat PDF.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y cynllun cysylltwch â desg gymorth y cynllun Grantiau Dawns a Drama.

Additional links

Sêr Dawns a Drama

Mae The Sound of Music, Stevie Wonder a Holby City i gyd yn gysylltiedig â'r Grantiau Dawns a Drama...

Allweddumynediad llywodraeth y DU