Beth ydy'r cysylltiad rhwng The Sound of Music, Stevie Wonder a Holby City? Yma, mae tri o sêr y llwyfan a'r sgrin yn egluro sut y gwnaethon nhw fanteisio i'r eithaf ar eu Grantiau Dawns a Drama.
Ym mis Medi 2006, enillodd Connie Fisher gystadleuaeth genedlaethol i gael chwarae rhan Maria mewn cynhyrchiad newydd o 'The Sound of Music' gan Andrew Lloyd Webber.
Darlledwyd y gystadleuaeth, 'How Do You Solve a Problem Like Maria?' ar y BBC, a Connie fu'n fuddugol ar ôl i ddwy filiwn o bobl fwrw'u pleidlais yn genedlaethol.
Enillodd Connie'r rhan ar ôl astudio yn Academi Mountview, ar gwrs y derbyniodd Grant Dawns a Drama ar ei gyfer.
Dywed, "Rhoddodd y Grant Dawns a Drama gyfle i mi wireddu fy uchelgais. Cefais hyfforddiant gwych am dair blynedd, ac fe wnaeth yr hyfforddiant hwnnw fy mharatoi ar gyfer y pethau da a'r pethau drwg mae rhywun yn ei wynebu yn y busnes. Heb yr hyfforddiant, fyddwn i byth wedi llwyddo.
"Yn awr, diolch i Mountview a chymorth y Cyngor Dysgu a Sgiliau, byddaf yn cael cyfle i 'ddringo pob mynydd' fel petai, a gwireddu fy mreuddwyd yn y Palladium yn Llundain."
Ni allai Jaye Jacobs ddychmygu gwneud unrhyw beth arall heblaw perfformio, ond mae hi'n gwybod na fyddai wedi gallu mynd i'r proffesiwn heb gefnogaeth lwyr ei rhieni, a ddywedodd wrthi am "fynd amdani!" Bellach mae hi'n chwarae rhan Nyrs Donna Jackson yn y rhaglen Holby City ar BBC1.
Ar ôl bod yn Ysgol Ddawns Joy Tinney yn ei thref enedigol, Caerfaddon, am ddeng mlynedd, aeth am glyweliad am le yn Ysgol Addysg y Celfyddydau yn Llundain. Dywed Jaye na fyddai wedi gallu mynd i'r ysgol heb y Grant Dawns a Drama, a dalodd ei ffioedd.
Graddiodd Jaye ym mis Gorffennaf 2003 gan ennill Diploma Genedlaethol mewn Theatr Gerddorol Broffesiynol. Yn ystod tymor cyntaf 2003, treuliodd dri mis yn y sioe gerdd 'Rent' yn West End Llundain tra'i bod yn cwblhau ei chwrs hyfforddi yr un pryd. "Roedd o'n waith caled dros ben, doeddwn i ddim yn gwybod os oeddwn i'n mynd neu'n dod! Ond dwi mor falch fy mod i wedi ei wneud. Mae'r profiad wedi fy mharatoi ar gyfer popeth bron."
Ers iddo raddio o'r cwrs Theatr Gerddorol ym Mountview ym mis Ebrill 2005, mae Nathaniel Morrison eisoes wedi sicrhau ei ran broffesiynol gyntaf, yn chwarae rhan yr enwog Stevie Wonder yn y sioe motown newydd 'Dancing In The Streets' yn y West End.
"Mae pethau wedi symud mor sydyn" esboniodd Nathaniel.
"Cefais gynnig clyweliad ar gyfer taith Dancing in the Streets pan oeddwn yn ymarfer ar gyfer fy sioe olaf ym Mountview. Yna, cefais fy rhoi ar lyfrau asiant cyn cael cynnig rhan Stevie Wonder yn y diwedd." Roedd y sioe mor llwyddiannus nes iddi symud ar fyr o dro i'r West End ac mae Nathaniel erbyn hyn yn perfformio yn Theatr Caergrawnt chwe diwrnod yr wythnos.
Mae Nathaniel yn frwdfrydig dros ben yn ei waith. "Rwyf wastad wedi bod eisiau perfformio yn y West End, ac mae'r hyfforddiant a gefais ym Mountview wedi fy mharatoi go iawn ar gyfer y maes. Gyda chymorth gan y cynllun grantiau Dawns a Drama, rwyf wedi llwyddo i gael hyfforddiant gwych a gwireddu fy mreuddwyd".
Ceir rhagor o wybodaeth hefyd am brofiadau myfyrwyr dawns a drama ar ôl iddyn nhw orffen eu hyfforddiant mewn llyfryn y gallwch chi ei lwytho oddi ar y we ar fformat PDF.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y cynllun, cysylltwch â desg gymorth Grantiau Dawns a Drama.