Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth sydd mor dda am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg?

Gellir cael hyd at £30 yr wythnos o Lwfans Cynhaliaeth Addysg, a chaiff ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc!

Beth ydy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg?

Yn syml, mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn arian cyfleus i'ch helpu i barhau i ddysgu. Os ydych chi'n 16, yn 17 neu'n 18 oed ac wedi gadael addysg orfodol, neu ar fin gwneud hynny, mae'n bosib y gallech fanteisio arno.

Gyda hyd at £30 yr wythnos yn ystod y tymor, gall y Lwfans Cynhaliaeth Addysg olygu llai o boeni am arian – gan roi mwy o amser i chi ganolbwyntio ar astudio.

I weld a ydych yn gymwys ai peidio, ewch i ‘Lwfans Cynhaliaeth Addysg: faint, a pha mor aml?’.

Pam parhau i ddysgu?

Mae gan bawb ei freuddwydion a'i ddyheadau ar gyfer y dyfodol. Dyna pam mae dal ati i ddysgu a hyfforddi mor bwysig. Gall eich cynorthwyo i ganfod beth rydych yn ei fwynhau, beth rydych yn dda am ei wneud a sut mae cael yr hyn yr hoffech ei gael mewn bywyd.

Wrth lwc, mae cyrsiau o bob math ar gael, a'r rheini'n ymwneud â sawl maes a phwnc – yn yr ystafell ddosbarth ac y tu allan.

Beth sy'n mynd â'ch bryd? Amaethyddiaeth a garddwriaeth? Gwaith swyddfa a gweinyddu? Cyfryngau digidol? Gwyddoniaeth a thechnoleg? Teithio, twristiaeth a lletygarwch?

A pha fath o gwrs fyddai fwyaf addas i chi? Safon Uwch? Diplomâu? Ail-eistedd arholiadau TGAU? Mynediad at Waith (e2e)? Cwrs sy'n arwain at Brentisiaeth?

I gael gwybod pa gyrsiau sydd ar gael yn eich ardal, cymerwch olwg ar eich prosbectws 14-19 lleol.

Neu os nad ydych eto'n gwybod pa fath o gwrs yr ydych yn dymuno'i ddilyn, dilynwch y ddolen isod.

Beth all y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ei wneud i chi?

Telir y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn syth i'ch cyfrif banc fel arfer

Beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud, gallai'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg eich helpu â chostau llyfrau, teithio, cyfarpar neu unrhyw beth defnyddiol i'ch cynorthwyo i barhau i ddysgu. Gellir cael hyd at £30 yr wythnos, a chaiff ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, nid i'ch rhieni nac i'ch coleg.

Beth yw’r anfantais?

Does dim anfantais. Cyn belled â'ch bod yn mynychu'n rheolaidd ac yn gweithio'n galed, ni ddylech gael problem wrth gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Ac os byddwch yn dal ati i ddysgu, gallai effeithio ar faint y byddwch yn ei ennill - dengys yr ymchwil diweddaraf y gall dysgu sgil newydd a chael cymhwyster newydd olygu mwy o arian i chi, gan ychwanegu hyd at £3,000 at eich cyflog blynyddol.

Oes gennych ddiddordeb? Y cam nesaf i chi yw canfod a ydych yn gymwys ai peidio, a faint o arian allech chi ei gael.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU