Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Cynhaliaeth Addysg: faint o arian, a pha mor aml?

Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn rhoi hyd at £30 o arian parod i chi bob wythnos er mwyn i chi allu parhau i ddysgu.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg: faint o arian allech chi ei gael?

Daw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg mewn taliadau o £10, £20 neu £30 yr wythnos, a bydd yr arian yn mynd yn syth i'ch cyfrif banc.

Fodd bynnag, dim ond os byddwch yn mynychu'r cwrs yn rheolaidd ac yn gweithio'n galed arno y cewch eich arian.

Os byddwch yn gymwys, cyfrifir y swm a gewch drwy edrych ar incwm eich cartref. Ni fydd unrhyw arian a enillwch wrth wneud gwaith rhan-amser yn effeithio arno, ac ni fydd yn gwneud gwahaniaeth i unrhyw fudd-daliadau y mae'ch rhieni'n eu cael.

Yn ogystal â'r swm wythnosol a gewch, mae modd i chi gael bonws hefyd – ar yr amod eich bod yn gwneud yn dda ac yn cyrraedd targedau a bennir gan eich athro, eich tiwtor neu'ch darparwr pan fyddwch yn dechrau.

Felly, ydych chi'n gymwys?

Beth am gadw popeth yn syml. Darllenwch y rhestr isod ac os yw'r disgrifiadau oed, cwrs ac incwm yn berthnasol i chi, mae'n debygol y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Eich oed

Yn gyntaf oll, mae angen i chi fod yn 16, yn 17 neu'n 18 oed a'ch bod wedi gadael – neu ar fin gadael – addysg orfodol.

Eich cwrs

Rhaid eich bod wedi cofrestru ar gwrs yn Lloegr a hwnnw naill ai:

  • yn gwrs addysg bellach amser llawn, naill ai mewn coleg neu mewn ysgol
  • yn Ddiploma a ariennir gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau (os yw ar gael) neu'n gwrs sy'n arwain at Brentisiaeth
  • yn gwrs Mynediad at Waith (e2e) a ariennir gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau (os bydd eich cwrs Mynediad at Waith yn dechrau ar 30 Mehefin 2008 neu ar ôl hynny, fe gewch uchafswm y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, sef £30 bob wythnos, waeth beth yw incwm eich cartref)

Incwm eich cartref

I fod yn gymwys ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn y flwyddyn academaidd sy'n dechrau ym mis Medi 2008, rhaid bod incwm blynyddol eich cartref yn is na £30,810 (ar gyfer blwyddyn dreth 2007/2008).

Ac mae newyddion da os oes gennych chi swydd ran-amser – ni fydd unrhyw arian a enillwch yn cael ei gynnwys yn incwm cyffredinol eich cartref.

 Incwm eich cartref (ar gyfer blwyddyn ariannol 2007/2008) Faint o Lwfans Cynhaliaeth Addysg gewch chi 
yn hyd at £20,817 y flwyddyn cewch £30 yr wythnos
yn £20,818 - £25,521 y flwyddyn cewch £20 yr wythnos
yn £25,522 - £30,810 y flwyddyn cewch £10 yr wythnos
yn fwy na £30,810 y flwyddyn ni fyddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Ydy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn effeithio ar fudd-daliadau eraill?

Na, dydy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ddim yn effeithio ar fudd-daliadau eraill ar gyfer y cartref. Felly mae dal yn iawn i'ch rhieni a'ch gofalwyr hawlio budd-dal plant, credydau treth ac yn y blaen.

Os oes gennych blant, gallech gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr un pryd â Gofal i Ddysgu, sy'n golygu y gallech gael cymorth ychwanegol â chostau gofal plant.

Ble allwch chi gofrestru?

Swnio'n dda? Ffoniwch linell gymorth y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar 0800 121 8989 i fynd gam yn nes at gael eich dwylo ar yr arian.

Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban

Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg gwahanol. Mae’n rhaid i chi wneud cais i'r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer y wlad yr ydych yn bwriadu astudio ynddi.

Additional links

Oedi gyda'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg?

Tan pryd y gellir ôl-ddyddio eich taliadau, a mwy

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU