Dylech wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg cyn gynted â phosib, neu efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach cyn cael eich arian. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw dilyn y rhestr wirio syml hon.
Os ydych chi'n gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, mae'n hawdd iawn cael gafael ar yr arian – yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw dilyn y camau syml isod.
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys ai peidio, gallwch naill ai ddilyn y ddolen isod neu ffonio llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Gallwch wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg unrhyw bryd drwy gydol y flwyddyn, ond os ydych am i'ch taliadau gael eu hôl-ddyddio i ddechrau eich cwrs, mae dyddiad cau ar gyfer anfon eich cais.
I wneud cais dros y ffôn, ffoniwch 0800 121 8989. Bydd staff y llinell gymorth yn rhoi cymorth i chi wrth i chi wneud eich cais.
I gael ffurflen gais ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gallwch:
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd hefyd angen i'ch rhiant neu'ch gofalwr anfon tystiolaeth o incwm y cartref ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol. Gallai'r dystiolaeth fod yn Hysbysiad am Ddyfarniadau Credyd Treth (TC602) neu'n ffurflen P60.
I gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd angen cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu arnoch, a thystiolaeth i brofi bod gennych un (er enghraifft, cyfriflen banc neu lyfr talu).
Os nad ydych wedi agor cyfrif banc eto, mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn rheswm da dros gael un. Dilynwch y ddolen isod i gael cyngor ar sut i wneud hyn.
Os ydych chi'n gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, anfonir Hysbysiad o Hawl atoch yn cadarnhau faint o arian a gewch bob wythnos.
Mae'n bwysig i chi gadw'ch Hysbysiad o Hawl yn ddiogel, oherwydd ni fydd yn bosib i chi hawlio'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg hebddo.
Pan fyddwch yn cofrestru ar eich cwrs neu ar raglen, mae'n rhaid i chi fynd â'ch Hysbysiad o Hawl gyda chi ar y diwrnod (neu mor fuan â phosib ar ôl hynny).
Bydd eich ysgol, eich coleg neu'ch darparwr dysgu hefyd yn gofyn i chi lofnodi cytundeb dysgu, a fydd yn nodi disgwyliadau o ran presenoldeb, ymddygiad, gwaith cwrs a chynnydd.
Os nad ydych yn gwbl fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 121 8989. Bydd cynghorwyr Cefnogaeth i Ddysgwyr yn fwy na pharod i'ch helpu i ddatrys eich problem.
Tan pryd y gellir ôl-ddyddio eich taliadau, a mwy