Sut mae cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg os ydych yn astudio y tu allan i Loegr.
Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon eu cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg eu hunain. Mae’n rhaid i chi wneud cais i'r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer y wlad yr ydych yn bwriadu astudio ynddi.
Er enghraifft, os ydych yn fyfyriwr o Loegr sy'n astudio yng Nghymru, gwnewch gais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg Cymru. Os ydych chi'n dod o'r Alban ac yn dysgu yn Lloegr, gwnewch gais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg Lloegr.
|
Lle'r ydych yn byw |
Lle'r ydych yn astudio |
Pa fath o Lwfans Cynhaliaeth Addysg gewch chi |
|---|---|---|
|
Lloegr |
Yr Alban |
Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr Alban |
|
Lloegr |
Cymru |
Lwfans Cynhaliaeth Addysg Cymru |
|
Lloegr |
Gogledd Iwerddon |
Lwfans Cynhaliaeth Addysg Gogledd Iwerddon |
|
Cymru |
Lloegr |
Lwfans Cynhaliaeth Addysg Lloegr |
|
Yr Alban |
Lloegr |
Lwfans Cynhaliaeth Addysg Lloegr |
|
Gogledd Iwerddon |
Lloegr |
Lwfans Cynhaliaeth Addysg Lloegr |