Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth os ydych chi'n astudio oddi cartref

Os oes angen i chi astudio oddi cartref oherwydd nad yw'r cwrs yr ydych yn dymuno'i ddilyn ar gael yn lleol, efallai y gallech gael cymorth ariannol gyda chost eich llety yn ystod y tymor.

Help gyda chost cyrsiau arbenigol

Os oes arnoch chi eisiau dilyn cwrs arbenigol nad yw ar gael yn eich ardal leol, mae dwy brif ffynhonnell bosibl o gefnogaeth i dalu am gostau ychwanegol astudio oddi cartref:

  • astudio mewn coleg sy'n cynnig bwrsariaethau preswylio ar gyfer cyrsiau penodol
  • gwneud cais am gyllid gyda'r Cynllun Cefnogaeth Preswylio

Dod o hyd i fwrsariaethau preswylio ar gyfer cyrsiau arbenigol

Mae nifer o 'Ganolfannau Preswylio Arbenigol' ledled y wlad yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio ar gyrsiau penodol. Dim ond mewn achosion lle nad oes darpariaeth debyg ar gael yn lleol y bydd llefydd ar gael.

Mae'r canolfannau hyn yn bennaf yn cynnig cefnogaeth ar gyfer cyrsiau amaethyddiaeth, celf a dylunio a garddwriaeth.

I chwilio rhestr o'r 51 coleg sy'n rhan o'r cynllun hwn ar hyn o bryd, gweler 'Dod o hyd i fwrsariaeth preswylio'.

I wneud cais am gymorth, bydd rhaid i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r coleg perthnasol.

Y Cynllun Cefnogaeth Preswylio

Os ydych chi wedi edrych ar y rhestr uchod ac nad oes bwrsariaeth preswylio ar gael ar gyfer y cwrs yr ydych chi'n dymuno'i astudio, efallai eich bod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cefnogaeth Preswylio - a ariennir gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau.

Os byddwch chi'n gymwys, bydd y cynllun yn eich helpu i dalu am eich llety yn ystod y tymor.

Gallwch hawlio hyd at £3,458 (£4,079 yn ardal Llundain) tuag at eich costau bob blwyddyn, hyd at uchafswm o dair blynedd. Mae'r dyfarniadau wedi'u seilio ar incwm y cartref.

Ydych chi'n gymwys?

Efallai eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cefnogaeth preswylio ac yn 16 oed neu'n hŷn, ac yn 'preswylio'n arferol' yn Lloegr.

Rhaid i'r cwrs yr ydych chi'n ystyried ei astudio:

  • fod yn bellach na 'phellter teithio dyddiol rhesymol' o'ch cartref - ac nad oes cyrsiau tebyg ar gael yn lleol
  • bod ar gyfer eich cymhwyster cyntaf ar lefel 2 neu lefel 3
  • cynnwys o leiaf 15 awr o bresenoldeb yr wythnos, a phara o leiaf 10 wythnos
  • cael ei ariannu gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau (os nad ydych chi'n siŵr, holwch gynghorydd myfyrwyr eich coleg)

Diffinnir 'pellter teithio dyddiol rhesymol' fel taith sy'n llai na 15 milltir, neu daith ddwy ffordd sy'n para dwy awr.

Gallwch gael syniad o'r amser a gymer i deithio yno drwy ddefnyddio dyfais cynllunio teithiau Directgov.

Ydych chi'n 'preswylio'n arferol' yn Lloegr?

Mae'r rheolau am breswylio yn rhai cymhleth, ac nid yw'r wybodaeth ar y dudalen hon yn cynnwys yr holl amgylchiadau posib. Ond fel canllaw cyffredinol, rydych chi'n 'preswylio'n arferol' yn Lloegr os ystyrir eich bod wedi ymgartrefu yn y DU a'ch bod wedi byw yn Lloegr am o leiaf dair blynedd cyn dechrau'ch cwrs.

Mae bod wedi ymgartrefu yn golygu:

  • bod â'r hawl i breswylio yn y DU, neu
  • bod gennych 'hawl amhenodol i ddod i'r wlad' neu 'hawl amhenodol i aros yn y wlad'

Mae gan ddinasyddion Prydeinig a rhai pobl benodol eraill yr hawl i breswylio yn y DU.

Sut mae gwneud cais

Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod er mwyn llwytho pecyn ymgeisio am y Cynllun Cefnogaeth Preswylio.

Gellir cael copïau caled o becyn ymgeisio 2008/2009 drwy:

  • ffonio Promotional Logistics ar 0845 602 2260; a
  • dyfynnu'r cyfeirnod - LSC-P-NAT-070148

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau pob adran berthnasol ar y ffurflen gais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen help wrth gwblhau'r ffurflen gais, ffoniwch y llinell gymorth Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr ar 0800 121 8989.

Dod o hyd i’r cwrs neu’r coleg iawn

Chwilio am gwrs neu fan astudio? Ewch i 'Dysgu mewn coleg neu chweched dosbarth'

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU