Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sgiliau ar gyfer gwaith os ydych chi dan 19 oed

Os ydych chi'n dymuno cael swydd ar ôl Blwyddyn 11, mae'n bwysig eich bod yn dewis un sy'n cynnig hyfforddiant a drefnir, a fydd yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Dysgu drwy weithio i hybu'ch gyrfa

Fwyfwy y dyddiau hyn, mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sydd â lefelau sgiliau a chymwysterau uwch. Felly, os ydych chi'n dymuno dechrau gweithio, bydd dod o hyd i swydd gyda hyfforddiant yn rhoi rhagolygon gwell i chi yn y tymor hir.

Gallwch ddysgu drwy weithio mewn ffordd sy'n addas i chi. Er enghraifft, gallech astudio'n rhan-amser yn ystod gyda'r nosau a phenwythnosau, neu drwy ddysgu o bell (ar-lein neu drwy'r post).

Prentisiaethau

Os hoffech gael swydd sy'n gwarantu hyfforddiant gwych, efallai mai Prentisiaeth yw'r peth i chi.

Mae prentisiaethau ar gael mewn amrywiaeth eang o sectorau cyflogaeth. Fel Prentis, byddwch yn ennill arian wrth i chi ddysgu ac astudio ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Os ydych chi'n chwilio am waith

Mynediad at Waith (e2e)

Os nad ydych yn barod i ddechrau ar Brentisiaeth, cyflogaeth gyda hyfforddiant neu addysg bellach ar ôl Blwyddyn 11, efallai y byddai rhaglen Mynediad at Waith (e2e) yn fanteisiol i chi. I fod yn gymwys, rhaid eich bod yn byw yn Lloegr a'ch bod rhwng 16 a 18 oed.

Bwriad Mynediad at Waith yw datblygu eich cymhelliant a'ch hyder. Bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau y gallwch eu defnyddio yn y gweithle, a elwir yn 'Sgiliau Allweddol' a 'Sgiliau am Oes'.

Bydd Mynediad at Waith yn cael ei deilwra ar gyfer eich anghenion unigol, felly ni fydd yn para am gyfnod penodol o amser. Yn ogystal â gweithio tuag at gymhwyster, gallwch roi cynnig ar wahanol sefyllfaoedd gwaith a dysgu.

Os ydych chi ar raglen Mynediad at Waith, efallai y cewch arian ar ffurf Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Ifanc

Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Ifanc

Cynllun gan y llywodraeth yw'r Fargen Newydd, a'i phwrpas yw helpu pobl sy'n ddi-waith. Fe gewch gynghorydd personol a fydd yn edrych ar eich profiadau, eich diddordebau a'ch amcanion er mwyn paratoi cynllun ar eich cyfer.

Cewch wneud cais am y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Ifanc os ydych chi rhwng 18 a 24 oed a'ch bod wedi gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn barhaus am chwe mis neu ragor.

Os cymerwch ran yn un o'r dewisiadau hyfforddi amser llawn, telir ffioedd eich cwrs i chi. Gellir hefyd gael cymorth ar gyfer costau llyfrau, teithio neu gyfarpar.

Os ydych chi mewn gwaith - ond nad oes hyfforddiant

Os nad yw'r swydd yr ydych wedi dod o hyd iddi yn cynnig llawer o hyfforddiant, neu os nad yw'n cynnig hyfforddiant o gwbl, gallech fod yn gymwys i gael Amser o'r Gwaith i Astudio neu Hyfforddi.

Gallwch fod yn gymwys os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed ac na chawsoch yr un cymhwyster Lefel 2 yn yr ysgol. Mae cymwysterau Lefel 2 yn cynnwys:

  • TGAU graddau A* - C
  • NVQ Lefel 2
  • cymwysterau penodol eraill, fel Diploma Cyntaf BTEC

Mae Amser o'r Gwaith i Astudio neu Hyfforddi yn rhoi hawl i chi gael amser rhesymol o'r gwaith yn ystod dyddiau gwaith cyffredin, gyda thâl, er mwyn astudio ar gyfer cymhwyster cymeradwy. Rhaid i hwn fod yn gymhwyster Lefel 2 a fydd yn helpu i wella eich rhagolygon cyflogaeth ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr amser a gewch chi o'r gwaith yn dibynnu ar y cwrs, eich amgylchiadau, ac anghenion eich cyflogwr.

Os ydych chi'n 18 oed, cewch hefyd gwblhau unrhyw gymwysterau yr ydych eisoes wedi dechrau astudio ar eu cyfer.

Ble gall eich hyfforddiant arwain

Efallai y gallech ddefnyddio'r cymwysterau y byddwch yn eu hennill drwy hyfforddiant seiliedig ar waith fel llwybr i brifysgol neu addysg uwch. Gall hyn wella eich rhagolygon ar gyfer cael swydd a'ch siawns o gael gwell enillion yn y dyfodol.

Gallai'r profiad gwaith y byddwch yn ei ennill fod yn ddefnyddiol iawn hefyd os ydych chi'n dymuno gwneud cais am gael gwneud Gradd Sylfaen. Mae Graddau Sylfaen yn cyfuno astudiaeth academaidd gyda dysgu yn y gwaith.

Additional links

Lwfans Cynhaliaeth Addysg: cael i fyny at £30 yr wythnos i ddysgu

Beth bynnag rydych chi am ddysgu dg_073008.gif 16-18, mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg yno i’ch helpu

Allweddumynediad llywodraeth y DU