Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Grant Dysgu i Oedolion: sut i wneud cais

Gallwch gael pecyn ymgeisio ar gyfer Grant Dysgu i Oedolion gan eich coleg, neu ofyn am un dros y ffôn gan linell learndirect advice. Ond dyma rai cwestiynau y byddech, o bosib, yn hoffi cael ateb iddynt cyn gwneud cais.

Pryd i wneud cais?

Dylech wneud cais am Grant Dysgu i Oedolion mewn da bryd cyn i'ch cwrs ddechrau fel nad ydych yn colli allan ar unrhyw daliadau. Er hyn, bydd yn bosib i chi wneud cais yn nes ymlaen yn y tymor. Gellir ôl-ddyddio taliadau mewn rhai achosion.

Mae ceisiadau am y Grant Dysgu i Oedolion ar agor yn awr ar gyfer blwyddyn academaidd 2008/2009.

Sut mae gwneud cais

I wneud cais am Grant Dysgu i Oedolion, neu i gael gwybod mwy am y cynllun:

  • cysylltwch â thîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich coleg – gallant eich helpu i weld a ydych yn gymwys, a mynd â chi drwy'r broses ymgeisio, neu
  • ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr ar 0800 121 8989

Sut allwch chi helpu i osgoi oedi wrth brosesu'ch cais?

Er mwyn gwneud yn siŵr nad oes oedi wrth i chi gael eich arian, sicrhewch eich bod wedi cael popeth sydd ei angen arnoch cyn gwneud cais. I wneud cais am Grant Dysgu i Oedolion, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfrif banc sy'n derbyn taliadau electronig drwy System Clirio Awtomatig y Banc (BACS) (gall y rhan fwyaf o gyfrifon cyfredol wneud hyn)
  • copi o'ch tystysgrif geni, trwydded yrru neu basport cyfredol
  • tystiolaeth o gyfanswm eich incwm trethadwy a'ch budd-daliadau trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol – gan gynnwys manylion incwm a budd-daliadau trethadwy eich partner os ydych chi'n byw gyda nhw

Pa ddogfennau sydd angen i chi eu darparu fel tystiolaeth incwm?

cofiwch ddarparu gwybodaeth am y flwyddyn dreth flaenorol – nid yr un bresennol

Bydd angen i chi roi tystiolaeth o unrhyw incwm trethadwy a budd-daliadau trethadwy a gawsoch yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol, ynghyd â'ch cais.

Golyga hyn y bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’r flwyddyn dreth a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2008 os byddwch chi’n gwneud cais am Grant Dysgu i Oedolion ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn mis Ebrill 2009.

Os ydych chi'n byw gyda'ch partner, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'u hincwm trethadwy a'u budd-daliadau trethadwy hwythau hefyd.

Mae incwm trethadwy a budd-daliadau trethadwy yn cynnwys:

  • Hysbysiad Dyfarnu'r Credyd Treth
  • tystiolaeth cyflog neu dâl (ffurflen P60 neu slip cyflog 52 wythnos/12 mis)
  • breintiau a roddir i gyflogeion, fel car cwmni neu gynllun gofal iechyd y cwmni (darparwch ffurflen P11D)
  • incwm o waith hunangyflogedig (darparwch eich Cyfrifiad Treth ar gyfer Hunanasesiad - ffurflen SA302)
  • incwm trethadwy o eiddo (darparwch gyfrifon wedi'u hardystio neu gytundeb tenantiaeth)
  • incwm trethadwy o gynilion, cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau eraill (anfonwch gyfriflen neu daleb treth)
  • pensiynau'r wladwriaeth, pensiynau preifat a phensiynau cyflogwyr (darparwch ffurflen P60 neu gyfriflen)

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi wneud cais?

Fe welwch gyfarwyddiadau ar ble i anfon eich ffurflen gais yn y pecyn ymgeisio. Ar ôl iddynt gael eich cais, bydd y Corff Taliadau, Llinell Gymorth ac Asesu yn dechrau ei brosesu.

Byddant wedyn yn rhoi gwybod i chi naill ai:

  • eich bod yn gymwys i gael Grant Dysgu i Oedolion, a faint gewch chi
  • bod angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth am eich cais
  • nad ydych yn gymwys i gael Grant Dysgu i Oedolion

Beth sy'n digwydd os na fyddwch yn mynychu'r coleg yn rheolaidd?

Dim ond os ydych wedi bod yn mynychu'r coleg yn foddhaol y cewch daliadau'r Grant Dysgu i Oedolion. Eich coleg fydd yn penderfynu a yw eich lefelau presenoldeb yn foddhaol ai peidio – ond dylent weithredu ar sail arweiniad a gânt ynglŷn â'r mater gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau.

Additional links

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU