Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae Benthyciadau Datblygu Gyrfa'n gweithio

Benthyciad gan fanc yw'r Benthyciad Datblygu Gyrfa i'ch cynorthwyo i dalu am ddysgu sy'n gysylltiedig â gwaith. Does dim rhaid i chi ddechrau talu eich benthyciad yn ôl am o leiaf mis ar ôl i'r hyfforddiant ddod i ben.

Sut all Benthyciad Datblygu Gyrfa eich helpu chi?

Gall Benthyciad Datblygu Gyrfa (BDG) eich helpu i ennill y profiad, yr hyfforddiant a'r cymwysterau y bydd eu hangen arnoch i wella eich sgiliau gwaith neu hyd yn oed i lansio gyrfa newydd.

Gallwch ei ddefnyddio i ariannu amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol (cysylltiedig â gwaith) gydag ystod eang o sefydliadau, er mwyn i chi allu dewis cwrs sy'n addas i'ch anghenion chi. Gallwch gael BDG pa un a ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu'n ddi-waith.

Mae BDG ar gael drwy drefniant rhwng y Cyngor Dysgu a Sgiliau (LSC) a thri o fanciau'r stryd fawr.

Yn gryno:

  • gallwch fenthyg unrhyw swm rhwng £300 a £8,000 i'ch helpu i ariannu hyd at ddwy flynedd o ddysgu (neu hyd at dair blynedd os yw'r cwrs yn cynnwys blwyddyn o brofiad gwaith ymarferol perthnasol)
  • gallwch gael BDG drwy Barclays, Banc y Co-operative a Banc Brenhinol yr Alban
  • mae'r Cyngor Dysgu a Sgiliau'n talu'r llog ar eich benthyciad tra'ch bod yn dysgu ac am hyd at fis ar ôl i chi stopio hyfforddi
  • rydych wedyn yn talu'r benthyciad yn ôl i'r banc dros gyfnod cytunedig am gyfradd llog sefydlog

Cofiwch: sicrhewch eich bod yn gallu talu’r ad-daliadau cyn i chi fenthyg yr arian

Cofiwch mai benthyciad personol rhyngoch chi a'r banc yw BDG, a chi sy'n gyfrifol am ei ad-dalu i'r banc. Cyn cymryd benthyciad, holwch faint fydd eich ad-daliadau misol, a byddwch yn hyderus y gallwch eu talu.

Ar gyfer beth y gellir defnyddio Benthyciadau Datblygu Gyrfa?

Gellir defnyddio BDG i dalu am fwy na ffioedd cwrs yn unig. Cyn i chi wneud cais, meddyliwch yn ofalus am yr hyn y bydd angen i'ch benthyciad dalu amdano. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu ar y swm i'w fenthyg.

Gall BDG fod yn addas ar gyfer tri maes:

  • ffioedd y cwrs - 80 y cant o ffioedd eich cwrs, neu 100 y cant os ydych wedi bod yn ddi-waith am dri mis neu fwy adeg y cais
  • costau eraill sy'n gysylltiedig â'r cwrs - yn cynnwys llyfrau, offer, cyfarpar, gofal plant, costau teithio ac unrhyw gostau sy'n gysylltiedig ag anabledd
  • costau byw - ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd y cartref, rhent, costau tai, treth gyngor a biliau dwr; ni ddylai'r costau hyn gael eu talu gan grant arall neu fudd-dal gan y llywodraeth ac ni chewch weithio am gyfnod sy'n cyfateb i 30 awr yr wythnos

Gall eich benthyciad dalu am un neu fwy o'r elfennau hyn, ond ni chaiff fod yn fwy na chyfanswm o £8,000.

I gael cyngor, ffoniwch Llinell Wybodaeth BDG ar 0800 585 505 rhwng 8.00 am a 10.00 pm saith diwrnod yr wythnos, e-bostio un o ymgynghorwyr BDG neu archebu galwad yn ôl ar amser sy'n gyfleus i chi.

Y camau nesaf

1. Gwneud yn siŵr fod Benthyciad Datblygu Gyrfa yn iawn i chi

Nid yw BDG yn addas i bawb; ac nid yw pawb yn gymwys. Cyn cymryd benthyciad, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am y canlynol:

  • i dalu am beth y gellir defnyddio'r benthyciad
  • pwy sy'n gymwys i gael benthyciad a phwy sydd ddim
  • faint fydd angen i chi ei ad-dalu
  • eich bod yn hyderus y gallwch wneud yr ad-daliadau

I gael gwybod mwy, edrychwch o dan 'Ydy Benthyciad Datblygu Gyrfa yn addas i mi?'.

2. Dewis y cwrs iawn

Cyn cymryd BDG, darllenwch am y cyrsiau y mae BDG ar gael ar eu cyfer yn y pecyn ymgeisio.

  • gwnewch yn siŵr ei fod yn gymwys ar gyfer BDG
  • sicrhewch fod eich darparwr dysgu'n cynnig y sgiliau, y profiad a'r cymwysterau gofynnol
  • sicrhewch fod cost a hyd eich cwrs yn addas i chi

3. Fydda i'n gallu ymrwymo i'r cwrs?

Bydd angen i chi ystyried effaith eich dysgu ar eich bywyd ac a fydd unrhyw newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud yn dderbyniol. Dylai'r cwrs fod ar y lefel iawn a rhaid i hyd y cwrs fod yn addas i chi. Bydd angen i chi edrych ar y costau cysylltiedig megis teithio a'r angen o bosibl i wneud gwaith cwrs yn eich amser hamdden.

4. Gwneud cais am Fenthyciad Datblygu Gyrfa

Deall sut, pryd a ble i wneud cais am Fenthyciad Datblygu Gyrfa.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU