Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ydy Benthyciad Datblygu Gyrfa yn addas i mi?

Bydd angen i chi ganfod a ydych yn gymwys i gael Benthyciad Datblygu Gyrfa (BDG) a'i fod yn addas i chi. Gallwch gael cyngor am unrhyw gwestiynau sydd gennych gan un o gynghorwyr Benthyciadau Datblygu Gyrfa dros y ffôn neu'r e-bost.

Pwy sy'n gymwys i gael Benthyciad Datblygu Gyrfa?

I fod yn gymwys i gael benthyciad, rhaid i chi fod:

  • yn 18 neu'n fwy
  • yn preswylio'n arferol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban gyda hawl diderfyn i aros yn y DU (ni fyddwch yn gymwys i gael benthyciad os oes cyfyngiadau ar eich hawl i aros yn y DU)
  • yn methu â thalu am y cwrs eich hun
  •  yn bwriadu gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd (neu Gwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein) ar ôl i chi orffen y cwrs

Pwy nad yw'n gymwys i gael Benthyciad Datblygu Gyrfa?

Ni fydd gennych hawl i gael y benthyciad:

  • os oes gennych swydd a bydd eich cyflogwr yn derbyn grant ar gyfer eich addysg
  • os oes gennych hawl i gael mathau eraill o gymorth ariannol, er enghraifft, grant gorfodol neu fenthyciad myfyriwr
  • os ydych yn derbyn bwrsari heb brawf modd gan y GIG

Ni allwch ddefnyddio Benthyciad Datblygu Gyrfa i dalu am unrhyw beth sy'n cael ei ariannu gan ffynhonnell arall a ariennir gan y pwrs cyhoeddus.

Os ydych yn gweithio i ddarparwr dysgu sydd wedi cofrestru ar gyfer BDG, ni chewch y benthyciad ar gyfer cwrs gyda'r darparwr dysgu hwnnw. Mae hyn yn berthnasol hefyd i'r rhai sy'n gysylltiedig â gwerthu a chyflwyno'r hyfforddiant gyda'r darparwr dysgu, rhiant-gwmni, is-gwmni neu gwmni cyswllt ac aelodau o'u teulu agosaf neu eraill sy'n byw yn yr un cartref.

Beth os na alla' i fforddio'r ad-daliadau?

I ohirio'r taliadau, rhaid i chi gael cytundeb y banc cyn y mae'r ad-daliadau i fod i gychwyn

Os ydych yn meddwl y cewch chi broblemau'n ad-dalu'r benthyciad, mae'n bwysig siarad gyda'ch banc.

Efallai y gallwch ohirio dechrau talu'r benthyciad yn ôl am hyd at 17 mis, er enghraifft:

  • os ydych yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau
  • os ydych yn gyflogedig a chi neu eich partner yn derbyn un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol: Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Gyngor, Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Pensiwn
  • os ydych yn derbyn Lwfans Hyfforddi
  • os ydych yn gorfod ymestyn eich cwrs (oherwydd iechyd gwael neu amgylchiadau arbennig eraill)

Bydd rhaid i chi gael cytundeb y banc i ohirio'r taliadau cyn y mae'r ad-daliadau i fod i gychwyn.

Beth os na fyddaf yn cwblhau'r cwrs?

Oni fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn dal yn gyfrifol am ad-dalu'r benthyciad yn llawn i'r banc. Mae hyn yn wir hefyd os bydd eich darparwr dysgu'n rhoi gorau i fasnachu neu os ydych yn anfodlon â'r cwrs am unrhyw reswm.

Rhaid i chi ddechrau talu'r benthyciad yn ôl o fewn mis i'ch hyfforddiant ddod i ben. Cofiwch, rhaid i chi roi gwybod i'r banc yn syth os bydd eich amgylchiadau'n newid mewn unrhyw ffordd.

Beth am fy mudd-daliadau ac Yswiriant Gwladol?

Os byddwch yn rhoi'r gorau i'ch gwaith er mwyn astudio, gallai eich sefyllfa o ran Yswiriant Gwladol newid. Ond efallai y gallwch hawlio credydau YG am eich cyfnod astudio. Holwch eich swyddfa dreth.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch swyddfa budd-daliadau cyn i chi wneud cais am Fenthyciad Datblygu Gyrfa. Efallai y bydd y benthyciad yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau, ac felly efallai y bydd angen benthyciad arnoch ar gyfer costau byw hefyd.

Am ba gyrsiau y gallaf dalu gyda Benthyciad Datblygu Gyrfa?

Gellir defnyddio Benthyciadau Datblygu Gyrfa i dalu am bob math o gyrsiau, gyda llawer o wahanol gyrff. I gael gwybod mwy edrychwch o dan 'Cyrsiau y mae Benthyciadau Datblygu Gyrfa ar gael ar eu cyfer'.

Cael cyngor am Fenthyciadau Datblygu Gyrfa

I gael cyngor gallwch:

  • ffonio Llinell Wybodaeth BDG ar 0800 585 505 rhwng 8.00 am a 10.00 pm saith diwrnod yr wythnos
  • archebu galwad yn ôl ar amser sy'n gyfleus i chi
  • e-bostio un o ymgynghorwyr BDG

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU