Gellir defnyddio Benthyciad Datblygu Gyrfa i ariannu pob math o gyrsiau gydag ystod o ddarparwyr dysgu. Mae'n werth ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i chi wrth ddewis eich cwrs a'r darparwr dysgu.
Gall Benthyciad Datblygu Gyrfa helpu i dalu am hyd at ddwy flynedd o gwrs galwedigaethol (cysylltiedig â gwaith) neu hyd at dair blynedd os yw'r cwrs yn cynnwys blwyddyn o brofiad gwaith ymarferol perthnasol. Os bydd eich cwrs yn para'n hwy na hyn, efallai y gallwch gael y benthyciad o hyd i dalu am ran ohono.
Gellir defnyddio'ch benthyciad i dalu am bob math o gyrsiau galwedigaethol, o hyfforddiant rheoli i hyfforddiant technegol ymhob maes gwaith a diwydiant bron. Gallwch gymryd cwrs amser llawn, rhan amser neu ddysgu o bell.
Gallwch ennill llu o wahanol gymwysterau, o Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol neu Gymwysterau Galwedigaethol yr Alban i gymwysterau'r Brifysgol Agored a chymwysterau ôl-radd. Mewn rhai amgylchiadau, gellir defnyddio'r Benthyciad Datblygu Gyrfa hefyd i helpu i dalu am asesiadau o gymwysterau.
Dim ond un Benthyciad Datblygu Gyrfa y gallwch ei ddefnyddio i dalu am un cwrs. Ond, os byddwch yn benthyg llai na'r uchafswm, efallai y gallwch gynyddu eich benthyciad. Cofiwch, rhaid i chi ad-dalu'ch benthyciad, hyd yn oed os na fyddwch yn cwblhau'r cwrs.
Bydd angen i chi feddwl beth yr ydych am ei gyflawni drwy eich dysgu:
Does dim rhaid i gwrs galwedigaethol arwain at gymhwyster i chi gael Benthyciad Datblygu Gyrfa, ond dylai gloywi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wella’ch sgiliau gwaith.
Mae rhai cyrsiau nad ydynt yn gymwys i gael y benthyciad, neu gyda chyfyngiadau.
Ni ellir defnyddio Benthyciad Datblygu Gyrfa i ariannu unrhyw gwrs sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfa yn unig i chi. Mae hyn yn cynnwys cyngor gyrfa, datblygiad gyrfa, ysgrifennu CVs, chwilio am waith ayb. Ond gellir ei ddefnyddio i ariannu cwrs sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol ym maes cyfarwyddyd gyrfa.
Rhaid defnyddio Benthyciad Datblygiad Gyrfa i dalu'r costau dysgu cychwynnol yn unig, yr hyfforddiant cynefino fel arfer. Nid oes modd ei ddefnyddio i dalu am y fasnachfraint nac i brynu trwydded gan y sawl sy'n rhoi'r fasnachfraint
Nid yw cwrs sylfaen a ddefnyddir fel cam cyntaf tuag at gwrs gradd yn gymwys ar gyfer Benthyciad Datblygiad Gyrfa. Ond byddai cwrs sylfaen sy'n sefyll ar ei ben ei hun ac sy'n arwain at waith yn gymwys.
Bydd angen i chi ystyried yr holl gostau sy'n gysylltiedig â'ch dysgu a sut y byddant yn cael eu hariannu. Holwch am y canlynol:
Mae'n werth ymchwilio i sawl darparwr dysgu cyn dewis. Bydd angen i chi:
Mae'r holl ddarparwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Benthyciad Datblygu Gyrfa wedi cytuno i set o ymrwymiadau.
Ond nid yw'r LSC a'r banciau'n monitro nac yn cymeradwyo darparwyr dysgu ac ni allant dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd y darparwr dysgu yr ydych wedi'i ddewis yn rhoi'r gorau i fasnachu neu'n peidio â darparu'r addysg a'r dysgu sydd ei angen arnoch i'r safon yr ydych yn ei disgwyl.
Eich cyfrifoldeb chi yw dewis sefydliad a fydd yn cynnig y math o ddysgu sydd ei angen arnoch i'r safon ofynnol.
Hyd yn oed os na lwyddwch i gwblhau eich cwrs am ba reswm bynnag, mae'n bwysig cofio y byddwch yn dal yn gyfrifol am ad-dalu'r benthyciad yn llawn i'r banc.
Cyn i chi ddewis cwrs, holwch ynghylch polisi ad-dalu'r darparwr dysgu rhag ofn y bydd yn rhaid i chi roi'r gorau iddo. Hefyd, holwch a fydd unrhyw gredydau a ddyfarnwyd neu a enillwyd yn dal yn ddilys.
I gael gwybod sut a phryd i wneud cais, ewch i'r adran 'Gwneud cais am Fenthyciad Datblygu Gyrfa'.