Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am Fenthyciad Datblygu Gyrfa

Pan fyddwch yn gwneud cais am Fenthyciad Datblygu Gyrfa (BDG) mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r hyn y bydd angen i chi ei wneud ar bob cam. Bydd y canllaw cam-wrth-gam hwn yn eich helpu i gynllunio pob cam o'ch cais.

Cyn i chi wneud cais

Ffoniwch Llinell Wybodaeth BDG ar 0800 585 505 rhwng 8.00 am a 10.00 pm saith diwrnod yr wythnos i ofyn am becyn ymgeisio ac i gael cyngor.

Hefyd, gallwch e-bostio un o ymgynghorwyr BDG neu archebu galwad yn ôl ar amser fydd yn gyfleus i chi.

Dewis banc

Darperir y benthyciadau trwy dri o fanciau'r stryd fawr:

  • Barclays
  • Banc y Co-operative
  • Banc Brenhinol yr Alban

Gall y cyfraddau llog a faint o amser mae'n ei gymryd i brosesu eich cais amrywio o fanc i fanc. Mae'n hanfodol eich bod yn gwybod faint fydd yr ad-daliadau ar ôl i chi orffen y cwrs a'ch bod yn hyderus y gallwch eu talu.

Pryd mae gwneud cais

Gwnewch gais am eich benthyciad ymhell ymlaen llaw. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi wneud cais i fanc arall os byddwch yn aflwyddiannus y tro cyntaf.

Mae Barclays a Banc Brenhinol yr Alban yn dechrau derbyn ceisiadau dri mis cyn dyddiad cychwyn y cwrs; chwe wythnos ynghynt ar gyfer Banc y Co-op.

Cofiwch, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am bythefnos i dair wythnos am ateb gan y banc. Allwch chi ddim gwneud cais i fwy nag un banc ar y tro.

Dan amgylchiadau eithriadol gallwch wneud cais ar ôl i chi ddechrau'r cwrs, ond rhaid cael digon o amser i brosesu'ch cais cyn i'r cwrs ddod i ben.

Nid yw bod yn gymwys ar gyfer BDG a chael eich derbyn ar gwrs yn sicrhau y cewch chi grant gan y gall banciau wrthod ceisiadau. Mae'n well peidio â dechrau cwrs dan y dybiaeth y bydd eich benthyciad yn cael ei gymeradwyo gan fanc.

Faint fydd angen i mi ei fenthyg?

Mae ffurflenni cais yr holl fanciau'n gofyn i chi gyfrifo eich costau byw misol. Byddant hefyd yn eich helpu i gyfrifo am faint y bydd angen y benthyciad arnoch.

Cofiwch ystyried yr holl gostau, megis llyfrau, deunyddiau ac unrhyw ddillad gwarchodol y byddwch eu hangen o bosibl, costau teithio, gofal plant ac unrhyw gostau sy'n gysylltiedig ag anabledd.

Gwneud cais i'r banc

Llenwch y ffurflen gais BDG a'i dychwelyd i'r banc. Efallai y bydd eich ffurflen gais yn cael ei dychwelyd atoch os nad yw'n gyflawn neu'n anghywir, a bydd hynny'n peri oedi gyda'ch cais.

Llenwch y ffurflen gais BDG eich hun.

Efallai hefyd y bydd angen i chi anfon dogfennau ategol, megis copïau o ddatganiadau banc neu fil un o'r prif wasanaethau fel prawf o'ch cyfeiriad.

Sut bydd y banc yn gwneud penderfyniad am fy nghais?

Bydd y banc yn gwneud yn siwr eich bod yn gymwys i gael. Os ydych yn meddwl y bydd eich hanes credyd yn peri problem, mae'n syniad da cysylltu â'r banc cyn i chi lenwi'r ffurflen gais.

Bydd y banc yn rhoi gwybod i chi a fu eich cais yn llwyddiannus neu beidio. Os cytunir ar eich BDG, bydd cytundeb credyd yn cael ei anfon atoch i chi ei lofnodi a'i ddychwelyd i'r banc.

Sut byddaf yn derbyn y benthyciad?

Pan fyddwch yn dechrau ar eich cwrs, byddwch chi a'ch darparwr dysgu'n llenwi 'Tystysgrif Dechrau' a'i chyflwyno i'ch banc a fydd yn rhyddhau'r arian. Ni fydd y banc yn rhyddhau unrhyw arian hyd nes y bo'ch darparwr dysgu wedi cadarnhau eich bod wedi dechrau'r cwrs. Bydd eich banc yn talu ffioedd y cwrs yn syth i'ch darparwr dysgu. Telir arian ar gyfer costau eraill yn syth i'ch cyfrif banc.

Os bydd eich cwrs yn para blwyddyn neu fwy, bydd y banc yn talu'r costau byw fesul cam gydol pob blwyddyn o'r cwrs.

Os ydych am dalu am eich cwrs fesul cam, trafodwch hyn gyda'ch darparwr dysgu a'r banc. Efallai y gellir talu ffioedd eich cwrs drwy hyd at bump rhandaliad.

Sut mae gwneud yr ad-daliadau?

Mae'r Cyngor Dysgu a Sgiliau'n talu'r llog ar eich benthyciad tra'ch bod yn dysgu ac am hyd at fis wedyn. Rydych wedyn yn ad-dalu'r benthyciad i'r banc dros gyfnod y cytunir arno ar gyfradd llog sefydlog.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU