Mae ein byd yn newid. Mae angen mwy o sgiliau nag erioed arnom i gyd. Mewn llai na deng mlynedd, ychydig iawn o swyddi fydd yn bodoli lle nad oes unrhyw sgiliau'n ofynnol.
Mae hyfforddiant yn allweddol o ran dysgu sgiliau newydd a gwireddu eich potensial. Os cymerwch reolaeth o'ch dyfodol drwy benderfynu gwella eich sgiliau, bydd gennych well cyfle o wneud yn dda yn y gwaith, ennill dyrchafiad, gwella eich gyrfa, dechrau eich busnes neu hyd yn oed dderbyn codiad cyflog.
Mae ymgyrch newydd, 'Ein Dyfodol. Mae yn ein Dwylo Ni', yn galw ar gyflogwyr ac unigolion i gymryd rheolaeth o'u dyfodol drwy fuddsoddi mewn sgiliau.
Os ydych chi'n ystyried rhoi hwb i'ch sgiliau, mae cyngor ar gael, lle bynnag yr ydych yn eich bywyd.
Ffoniwch y llinell gymorth rhadffôn 'Mae yn ein Dwylo Ni' ar 0800 011 30 30.
Neu i gael mwy o syniadau am sut i wella eich sgiliau, dilynwch y dolenni isod.
Yr hanfodion
Os nad ydych yn gyfforddus gyda lefel eich sgiliau darllen, ysgrifennu neu fathemateg, mae digonedd o gymorth ar gael.
Gallwch hefyd gael cymorth i wella eich sgiliau cyfrifiadurol a TG, a hynny os ydych chi'n ddechreuwr llwyr, neu os ydych am wella'r sgiliau sydd gennych eisoes.
Os yw eich sgiliau sylfaenol yn ddigon da, mae'r byd i gyd o'ch blaen.
Mae bron i filiwn o gyrsiau ledled y wlad, a hynny mewn pynciau sy'n amrywio o oroesi ar fynyddoedd i arlwyo.
Gyda chymaint o gyrsiau i ddewis o'u mysg, mae'n bwysig eich bod yn ennill cymwysterau ar ddiwedd y cwrs - maent yn eich helpu i brofi eich bod wedi cael gwybodaeth a datblygu sgiliau penodol, a gallant eich helpu i gael gwell swydd.
Os ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd, ond eich bod yn poeni am arian, efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i'ch helpu i gymryd rheolaeth o'ch dyfodol.
Os ydych chi dan 19 mlwydd oed, mae gennych hyd yn oed fwy o ddewisiadau i'w harchwilio, sy'n rhoi'r cyfle i chi ennill sgiliau yn y gwaith, mewn coleg neu yn yr ysgol.
O ddiplomâu galwedigaethol a chymwysterau TGAU i Brentisiaethau, o gyrsiau lefel AS i gyrsiau eraill, mae mwy o ffyrdd o ddysgu neu hyfforddi nag erioed.
I siarad â rhywun i gael gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd, cyrsiau a swyddi gwag, ffoniwch Connexions Direct ar 080 800 13 2 19.
Neu edrychwch ar ein hadrannau ar wneud dewisiadau ar gyfer Blynyddoedd 10 ac 11, ac ar ôl 16.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn daliad wythnosol o hyd at £30 yr wythnos i bobl ifanc 16 i 19 mlwydd oed, gan ddibynnu ar incwm eu cartref. Fe'i telir yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc yn gyfnewid am eich ymroddiad i ddysgu.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gallai fod cymorth arall ar gael hefyd.
'Ein dyfodol. Mae yn ein Dwylo Ni' yw enw ymgyrch newydd dan arweiniad y Cyngor Dysgu a Sgiliau ar y cyd gyda'r llywodraeth a'r Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector.
Mae'r ymgyrch yn galw ar gyflogwyr ac unigolion i gymryd rheolaeth o'u dyfodol drwy fuddsoddi mewn sgiliau.
Os ydych chi'n gyflogwr neu'n rhanddeiliad ac yr hoffech gael gwybod mwy, dilynwch y dolenni isod.