Daw aelodau panel 2007/2008 o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd, sy'n darparu safbwynt eang ar addysg bellach. Dewch i wybod mwy am aelodau'r panel – yn eu geiriau eu hunain.
Cymerir aelodau'r panel o bob rhan o'r sector addysg bellach, o golegau i ddysgu yn y gwaith.
Mae rhai o'r aelodau newydd adael yr ysgol, mae rhai wedi dychwelyd at ddysgu'n hwyrach yn eu bywydau i gynyddu eu cyfleoedd gyrfa ac mae eraill sydd wedi ymddeol ac yn dysgu er pleser.
"Fe'm ganwyd yn Guyana yn y Caribî, cyn dod i'r DU yn 2003. Fis diwethaf, pasiais fy mhrawf dinasyddiaeth er mwyn gallu parhau i fyw ac astudio yn y DU. Rwy'n edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd o'm blaen ac rwyf ar y trywydd iawn i basio fy NVQ 3 a fydd yn fy ngalluogi i barhau ymhellach. Yn ogystal â hynny, rwy'n gobeithio gallu ehangu fy mhrofiadau mewn ffyrdd eraill yn ystod y flwyddyn nesaf.
"Rwy'n gynrychiolydd Dysgu Undeb o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Yr ardal rydw i'n ymwneud â hi yw Norfolk i gyd ynghyd â rhan o Suffolk ar ran Y Post Brenhinol, Counters a Parcelforce. Rwyf wedi cael tipyn o lwyddiant wrth sicrhau diddordeb gan ddysgwyr, a hoffwn ehangu a gwella ar hyn a helpu eraill. Hoffwn hefyd gyfrannu rhywfaint i ddyfodol datblygu dysgu."
"Rwy'n ddisgybl o'r chweched uchaf yng Ngholeg Richard Huish yn Taunton. Rwy'n astudio daearyddiaeth, daeareg ac economeg. Cefais brofiad o gynrychioli llais y dysgwyr ar bwyllgorau'r ysgol a'r coleg am bum mlynedd. Ar y cyfan, rwy'n berson sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn y byd!"
"Rydw i’n nyrs. Rydw i hefyd yn dysgu iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, rydw i'n gynrychiolydd dysgu undeb yn yr ysbyty. Rwyf wrth fy modd yn mynd â'r cŵn am dro ar hyd y gweundiroedd. Rydw i'n ceisio gweld cyfle, yn hytrach nag anhawster; mae fy mywyd yn gyfoethocach o'r herwydd. Rwyf wrth fy modd yn derbyn her ac yn dilyn y gwahanol lwybrau sy'n cael eu cynnig gan addysg - ac yn galluogi eraill i wneud yr un fath hefyd."
"Bellach, rwyf yng Ngholeg West Notts ers pedair mlynedd. Ym mis Mai 2007, cefais fy ethol yn llywydd undeb y myfyrwyr. Mae hi'n swydd heriol iawn, ac o'r herwydd rwyf wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan i wneud y gwaith. Rydw i wrth fy modd ag unrhyw fath o chwaraeon, ac rwy'n hyfforddi pêl-droed yn fy amser hamdden. Rwy'n caru cerddoriaeth hefyd, ac mae gen i synnwyr digrifwch gwych."
Rwy'n ifanc, yn frwdfrydig, yn gweithio'n galed i gyrraedd y nod ac yn chwilio am her newydd bob amser. Rydw i'n unigolyn sydd ag ysfa i lwyddo. Gallaf hefyd gyfathrebu'n dda ar bob lefel. Gallaf reoli fy amser yn effeithiol. Mae gennyf sgiliau trefnu da. Rwy'n wresog a chyfeillgar, yn gallu defnyddio cyfrifiaduron ac mae gennyf rywfaint o brofiad gwaith."
"Gallaf gynrychioli'r ochr academaidd a'r ochr alwedigaethol o addysg bellach. Hyd yn hyn, bu addysg bellach yn brofiad cadarnhaol i mi, ond roedd yna rai agweddau negyddol. Yn sgîl hyn, teimlaf fod gennyf lawer o syniadau y gallaf eu rhannu â'r panel."
"Rwyf yn astudio mewn addysg bellach ers rhai blynyddoedd. Mae gen i gefndir dysgu amrywiol, o ddosbarthiadau yn y coleg i ddysgu o bell i ddysgu yn y gwaith. Fy niddordeb mawr yw dysgu yn y gwaith. Rydw i'n sylweddoli'r anawsterau sydd i fyfyrwyr yma, a'u bod yn teimlo'u bod wedi eu hynysu, ac felly fy nod yw dod o hyd i ffyrdd o wella ansawdd eu hastudio."
"Gadewais yr ysgol a dechrau gweithio i'r Gwasanaeth Sifil. Doedd neb yn disgwyl unrhyw beth gen i. Rwy'n fam sengl i fab a chanddo anghenion arbennig, yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Fe gymerodd hi flynyddoedd cyn i mi sylweddoli y gallwn gyflawni pethau a hoffwn rannu fy ngwybodaeth ag eraill."