Mae'r Panel Dysgwyr Cenedlaethol yno i roi llais i ddysgwyr am faterion pwysig ym maes addysg bellach. Mae wedi cynhyrchu adroddiadau ar amrywiaeth o bynciau ers y cafodd ei sefydlu yn 2006 - a gallwch gael copïau os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod am safbwyntiau'r panel.
Mae'r Panel Dysgwyr Cenedlaethol wedi rhoi safbwynt dysgwyr i'r llywodraeth, y Cyngor Dysgu a Sgiliau a sefydliadau eraill sy'n gwneud penderfyniadau, am amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar ddysgwyr mewn addysg bellach.
Mae'r panel wedi cynhyrchu adroddiadau'n ymwneud ag amrywiaeth eang o bynciau - o wella'r ffordd y caiff colegau addysg bellach eu harolygu i gynigion ar gyfer cynyddu'r oedran isaf y caiff pobl ifanc adael addysg neu hyfforddiant.
Gallwch gael golwg gyffredinol ar waith y panel dros y flwyddyn ddiwethaf o Flwyddlyfr 2008 y Panel Dysgwyr Cenedlaethol.
Os hoffech wybodaeth fanylach am yr hyn y mae'r panel wedi bod yn ei wneud, mae adroddiadau diweddar yn cynnwys:
Gallwch gael copi o unrhyw adroddiad a gyhoeddwyd gan y panel drwy anfon e-bost i'r cyfeiriad isod. Yn eich e-bost, nodwch godau'r adroddiadau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Os hoffech chi gael adroddiadau drwy'r post, cofiwch roi cyfeiriad llawn. Mae fersiynau testun mawr a Braille ar gael - cofiwch nodi yn eich e-bost os byddai'n well gennych un o'r fformatau hyn.
Bydd angen Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae'r rhaglen ar gael yn rhad ac am ddim os nad yw gennych eisoes.
Gallwch gael atebion i ymholiadau cyffredinol am y Panel - neu ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd drwy e-bost am yr hyn y mae'r Panel yn ei wneud - drwy e-bostio SHM. Mae SHM yn gwmni sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau'r Panel ar ran yr Adran dros Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau.