Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyngor gyrfa a dysgu wyneb-yn-wyneb: nextstep

Cewch gymorth a chyngor wyneb-yn-wyneb gan eich cynghorydd nextstep personol. Mae 47 o swyddfeydd nextstep wedi'u lleoli o gwmpas Lloegr, felly nid yw cyngor a chymorth byth yn bell.

Mynnwch gyngor

Mae nextstep yn wasanaeth wyneb-yn-wyneb rhad ac am ddim sy'n rhoi cyngor am ddysgu a gyrfaoedd. Bydd cynghorwyr personol yn eich swyddfa leol yn barod i'ch helpu i benderfynu pa gefnogaeth a chyngor fydd orau i chi.

Siarad â chynghorydd personol

Beth bynnag yr ydych yn dymuno ei wneud, o newid swydd neu ddysgu rhywbeth newydd i ymestyn eich sgiliau, gallwch siarad yn gyfrinachol â'ch cynghorydd nextstep personol, a chynllunio'ch cam nesaf.

Bydd gan eich cynghorydd wybodaeth a manylion am gyfleoedd a all eich helpu i gael gwaith, i wneud yn well yn eich swydd, neu i gael mwy o foddhad o'ch gyrfa.

Pwy sy’n cael defnyddio gwasanaethau nextstep?

Mae'r gwasanaethau wyneb-yn-wyneb ar gael i unrhyw un sy'n 20 oed neu'n hŷn sydd heb gymhwyster Lefel 2 eto - mae hynny'n golygu pump TGAU gradd A* i C, neu NVQ Lefel 2.

Trefnwch apwyntiad â chynghorydd nextstep i drafod cymwysterau, neu defnyddiwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am y gwahanol lefelau.

Sut mae trefnu apwyntiad

Defnyddiwch wasanaeth chwilio am swyddfa nextstep i ddod o hyd i gyfeiriad a manylion cyswllt eich swyddfa leol. Yna, gallwch drefnu apwyntiad i gyfarfod â'ch cynghorydd personol a dechrau gwneud y newidiadau y dymunwch eu cyflawni.

Beth y gall nextstep ei gynnig?

Bydd ar y rhan fwyaf o bobl angen cymorth gyda dysgu, sgiliau a gwaith ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

Bydd nextstep yn cynnig gwybodaeth a chyngor i'ch helpu i wneud penderfyniadau am eich dyfodol drwy gysylltu'ch diddordebau personol a'ch sgiliau â swydd neu yrfa, a thrwy bennu'r sgiliau y gall fod eu hangen arnoch. Gall nextstep hefyd eich helpu gyda'r canlynol:

  • deall y farchnad swyddi
  • chwilio am swyddi a gwneud cais amdanynt
  • dod o hyd i arian i'ch cynorthwyo wrth i chi ddysgu
  • datblygu'ch CV
  • gwella'ch sgiliau cyfweliad
  • argymell ffyrdd i chi symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol

Cymorth gyda'ch sgiliau darllen, ysgrifennu a mathemateg

Bydd llawer o bobl yn sylweddoli nad ydynt yn eu swydd ddelfrydol gan nad ydynt yn teimlo'n hyderus ynghylch eu sgiliau darllen, ysgrifennu neu fathemateg. Gall nextstep eich rhoi ar ben ffordd, yn ogystal â'ch cynghori am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael wrth i chi ddysgu.

Canfod pa sgiliau sydd gennych

Yn ogystal â'ch helpu i weld pa sgiliau yr ydych am eu gloywi, gall nextstep hefyd eich cynorthwyo i ysgrifennu CV sy'n eu hegluro'n glir, a'ch paratoi ar gyfer cyfweliadau swydd.

Cefnogaeth gyda'ch gyrfa gan nextstep

Os ydych chi'n dymuno newid eich swydd, gall nextstep eich helpu i weld pa sgiliau y bydd eu hangen arnoch a dangos i chi sut gall y pethau yr ydych wedi'u dysgu mewn un swydd fod yn werthfawr mewn swydd arall.

Additional links

Dod o hyd i'ch swyddfa nextstep agosaf

Dod o hyd i gefnogaeth gyrfaoedd a dysgu wyneb-yn-wyneb gan eich swyddfa nextstep leol

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU