Os yw'ch sgiliau darllen, ysgrifennu neu fathemateg yn eich dal yn ôl, yna gall nextstep roi cymorth gwirioneddol i chi. Gallwch drefnu cyfarfod wyneb-yn-wyneb â chynghorydd yn eich swyddfa leol (yn Lloegr yn unig) a threfnu i ddysgu er mwyn gloywi'ch sgiliau.
Bydd gwella'ch sgiliau darllen, ysgrifennu a mathemateg yn eich helpu mewn sefyllfaoedd o ddydd i ddydd, ond bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i chi helpu'ch plant gyda'u gwaith cartref, ac yn gwneud i chi deimlo'n dda amdanoch eich hun.
Mae cynghorwyr nextstep eisoes wedi helpu miloedd o bobl i ddysgu eto – dwy enghraifft yn unig yw'r straeon isod.
Bum mlynedd yn ôl, doedd gan Irena, sy'n 31 oed, ddim swydd na lle i fyw. Heddiw, mae ganddi swydd llawn amser fel Cynorthwy-ydd Personol mewn cwmni cyfreithiol ac mae'n berchen ar ei chartref ei hun.
'Roeddwn i'n sownd mewn rhigol a doeddwn i byth yn gallu setlo ar unrhyw beth o gwbl. Yna fe ddes ar draws nextstep ar y rhyngrwyd, a gwneud apwyntiad. Rhoddodd fy nghynghorydd lwyth o gyngor ymarferol i mi ar gyllidebu a sut i feddwl o ddifri am beth oeddwn i ei eisiau mewn bywyd. Gyda'i help hi, fe ddysgais sut i ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais am swyddi a chanolbwyntio ar beth roeddwn i eisiau ei wneud.
Roeddwn i wedi mwynhau defnyddio cyfrifiaduron erioed, felly awgrymodd fy nghynghorydd y dylwn ymuno â chwrs mewn coleg lleol er mwyn gwella fy sgiliau Technoleg Gwybodaeth. Ar ôl hynny, cynigiwyd swydd dros dro i mi mewn cwmni cyfreithwyr prysur. Roeddwn i'n mwynhau'r gwaith ac ar ôl ychydig fisoedd fe gynigion nhw swydd barhaol i mi. Dair mlynedd yn ddiweddarach, roeddwn i wedi cynilo digon o arian i allu rhoi blaendal ar fy fflat.
'Roedd y cynghorydd nextstep yn rhyfeddol o amyneddgar bob amser, ac fe wnaeth hi wahaniaeth aruthrol. Rwy'n aml yn meddwl beth fyddai wedi digwydd pe na bawn i wedi mynd at nextstep.'
Doedd Darnell, sy'n 26 oed, byth yn aros mewn swyddi gwerthu am fwy nag ychydig fisoedd. Ond bellach mae ganddo swydd barhaol, sgwter newydd ac ychydig o gynilion.
'Fe ddes i ar draws nextstep pan oeddwn i'n mynd am dro yn ystod fy awr ginio. Meddyliais nad oedd gen i unrhyw beth i'w golli o fynd i mewn. Roeddwn i wedi syrffedu ar sefyllian o gwmpas mewn siopau. Roedd y cynghorydd nextstep yn frwd ei chefnogaeth, ac fe awgrymodd y dylwn wneud cais am swydd barhaol.
'Fe ddywedais wrthi nad oeddwn i'n gweld sut y gallai gwella fy mathemateg a'm Saesneg wneud unrhyw wahaniaeth, er mai dyna'r oedd hi wedi ei awgrymu. Ond roeddwn i'n anghywir! Rydw i'n fwy hyderus, a gallaf wneud cais am swyddi gwell na'r rhai oedd gen i yn y gorffennol. Rydw i bellach yn gweithio yn yr Adran Gwerthiant - fyddwn i erioed wedi breuddwydio am weithio yno cyn hyn - ac rwy'n ei fwynhau'n fawr iawn. Mae swydd barhaol wedi rhoi annibyniaeth i mi, ac mae'n gadael i mi gynllunio at y dyfodol.'
Roedd Charlie, sy'n 21, wrth ei fodd gyda chwaraeon erioed, ond fe adawodd yr ysgol pan oedd yn 16 gyda thri chymhwyster TGAU.
'Pan roeddwn i'n yr ysgol, roedd y cynghorydd gyrfaoedd yn dweud y dylwn wneud rhywbeth fel plastro neu osod brics. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i'w wneud â chwaraeon, ond doedd gen i ddim syniad a oedd hynny'n bosib, neu hyd yn oed sut i gael mwy o wybodaeth.
'Dywedodd mam un o'm ffrindiau y dylwn fynd at nextstep i gael rhywfaint o gyngor. Helpodd fy nghynghorydd nextstep fi i edrych ar nifer o wahanol opsiynau. Dywedodd hi wrtha i y gallwn gael cymhwyster mewn dysgu chwaraeon pe bawn i'n mynd i'r coleg.
‘Tra'r oeddwn i yn y coleg, fe ddywedon nhw wrtha i fy mod yn dioddef o ddyslecsia. Fe ges i help wrth ddatblygu ffyrdd o ddygymod â dyslecsia - a gwnaeth hynny wahaniaeth mawr hefyd.
'Roedd ymweld â nextstep yn dro ar fyd oherwydd bod y cynghorydd wedi rhoi hyder i mi anelu at y swydd roeddwn i eisiau ei gwneud. Yn y gorffennol, roeddwn i wastad wedi teimlo mai fi ddylai newid i addasu i'r swydd, ond dangosodd y cynghorydd i mi mai fel arall yr oedd hi: gallwn ddod o hyd i swydd addas i'r sgiliau sydd gennyf.'