Does dim cyfrinach i gael swydd, ond gall cynghorwyr nextstep eich helpu i feithrin sgiliau a fydd yn cynyddu'ch siawns o lwyddo. Gall eu cyngor a'u cymorth newid y ffordd y byddwch yn chwilio am waith a sicrhau eich bod yn defnyddio'ch sgiliau yn y modd gorau posib.
Gall cynghorwyr nextstep eich helpu i ysgrifennu CV llwyddiannus. Gallant hefyd eich helpu i baratoi at gyfweliadau swydd, gan ddangos i chi pa dechnegau sy'n gweithio orau.
Mae cynghorwyr nextstep eisoes wedi helpu miloedd o bobl i fynd yn ôl i weithio – ceir tair o'u storïau isod.
Daeth Saheera, sy'n 44 oed, i Loegr o Delhi yn 1989. Ar ôl cael teulu roedd hi'n awyddus i ddod o hyd i waith, ond roedd yn betrus ynghylch dychwelyd i'r gweithle.
Roedd hi'n arfer bod yn ysgrifenyddes mewn cwmni allforio mawr yn Delhi, ac ar ôl cyrraedd Lloegr, bu'n gwneud gwaith dros dro am gyfnod byr cyn priodi a chael plant. Roedd Saheera'n poeni am ddychwelyd i’r gwaith: "Sut byddwn i’n ymdopi â'r dechnoleg? Wyddwn i ddim sut roedd ffôn swyddfa'n gweithio, hyd yn oed!"
Tynnodd cynghorydd nextstep Saheera ei sylw at y ffaith fod llawer o ferched yn dychwelyd i weithio, a gwnaeth hynny iddi deimlo'n llawer gwell. Awgrymod y cynghorydd y dylai hi loywi a diweddaru ei Saesneg busnes, a chymryd cwrs Technoleg Gwybodaeth sylfaenol. Mae Saheera'n credu y bu'r ffaith iddi gael digon o gyfle i ymarfer cyfweliadau a phrofion addasrwydd yn gymorth mawr i wella'i hyder.
"Er fy mod i'n dal i fod yn nerfus iawn pan es i am gyfweliad, roedd hyn i gyd wedi gwneud i mi deimlo'n well. Allwn i ddim credu'r peth pan ges i swydd fel gweinyddwraig gyda fy ymddiriedolaeth GIG lleol. Roedd hi’n foment anhygoel. Rydw i mor ddiolchgar i nextstep gan bod fy swydd wedi rhoi ffrindiau newydd, sgiliau newydd - a blas newydd ar fywyd i mi.”
Cymerodd Linda, sy'n 39 oed, seibiant o'i gyrfa fel ffotograffydd priodasau er mwyn gofalu am ei gefeilliaid. Pan oedd hi'n barod i ddechrau gweithio drachefn, fe welodd fod technoleg wedi symud yn ei blaen.
"Mae’n anhygoel pa mor gyflym mae technoleg yn newid”, medd Linda. Roedd hi wedi gweithio ar ffilm erioed, ac er ei bod wedi defnyddio camera digidol, un digon sylfaenol oedd hwnnw: "Fe wyddwn na allwn i fod yn ffotograffydd priodasau mwyach - yn syml, doedd gen i mo'r sgiliau."
Clywodd Linda am nextstep, ond doedd hi ddim yn disgwyl llawer. "Allwn i ddim dychmygu y byddai unrhyw un yn cyflogi mam i ddau o efeilliaid a chanddi sgiliau na all hi eu defnyddio", meddai wrth gofio. "Doedd gen i ddim llawer o obaith y byddwn i'n dod o hyd i waith fyddai'n gwneud y mwyaf o'm sgiliau creadigol."
Ond dywedodd y cynghorydd nextstep wrth Linda y gallai gloywi a diweddaru ei sgiliau Technoleg Gwybodaeth gynnig llu o gyfleoedd newydd iddi. Fe helpodd hi Linda i ddod o hyd i gwrs mewn ffotograffiaeth ddigidol y gall hi ei ffitio o amgylch diwrnod ysgol y gefeilliaid, ac fe fwynhaodd Linda'r cwrs yn fawr: "Fe sylweddolais y gallwch chi ddiweddaru eich sgiliau - ac mae hynny'n rhoi hyder i chi".
Mae Linda bellach yn gweithio i asiantaeth ffotograffiaeth: "Mae'n gyfuniad gwych o ddefnyddio fy 'hen' sgiliau a'r rhai newydd - diolch yn fawr nextstep!".
Roedd Conor, sy'n 26 oed, wedi credu erioed y byddai ei ddiffyg cymwysterau yn ei rwystro rhag gwireddu ei freuddwyd: dod yn weithiwr cymdeithasol.
Fe adawodd yr ysgol pan oedd yn 16 oed heb unrhyw gymwysterau, ac roedd yn gweithio i gwmni cludwyr pan welodd hysbyseb am nextstep yn ei bapur lleol. Yn fuan wedi hynny, roedd ganddo apwyntiad i fynd i gyfarfod cynghorydd.
Dywedodd Conor wrthi am ei uchelgais, ac awgrymodd hi ei fod yn dilyn cwrs blwyddyn Mynediad i Addysg Uwch yn ei goleg lleol.
Bellach mae Conor yn dilyn cwrs Mynediad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'n golygu astudio yn y coleg am dair awr, ddwy noson o'r wythnos - yn ogystal â rhywfaint o astudio ar ei ben ei hun. Mae yna gymysgedd o ddulliau dysgu, sef trafodaethau, darlithoedd, gwaith grŵp a sesiynau ymarferol.
"Mae'n hamddenol a chyfeillgar yma", medd Conor.. "Rydw i'n bwriadu gwneud cais i fynd i brifysgol i wneud gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, felly mae 'mreuddwyd yn dod yn wir. Rydw i'n ddiolchgar dros ben i nextstep oherwydd fe ddangosodd y cynghorydd i mi y gall cyfle arall godi'i ben."