Os nad ydych wedi cael cyngor gyrfa ers i chi adael yr ysgol, mae'n debyg ei bod yn amser i chi gael cyngor eto. Bydd cynghorwyr mewn swyddfeydd nextstep ledled Lloegr wedi'u hyfforddi i'ch helpu i ganfod beth rydych chi'n dda am ei wneud, a pha lwybr gyrfa y gallech ei ddilyn yn y dyfodol.
Bydd cynghorwyr yn eich swyddfa nextstep leol wedi'u hyfforddi i sylwi ar y sgiliau sydd gennych yn barod, ac i weld pa sgiliau y bydd eu hangen arnoch i gael y swydd yr ydych yn dymuno'i chael.
Gallant ddangos i chi sut y gall y pethau yr ydych wedi'u dysgu mewn un swydd fod yn ddefnyddiol ar gyfer swydd arall, yn ogystal â'ch helpu i ddeall y farchnad swyddi, eich cynghori am eich dewisiadau a thrafod gyrfaoedd eraill a fyddai'n addas ar eich cyfer.
Mae'ch CV yn hanfodol pan ddaw'n amser cael swydd newydd, a gall cynghorwyr nextstep eich helpu i'w ysgrifennu. Allwch chi ddim newid y cofnod sydd gennych o swyddi blaenorol, ond fe allwch weithio gyda chynghorwr i wneud yn siŵr bod eich CV yn dangos eich cryfderau a'r sgiliau gwerthfawr yr ydych wedi'u hennill.
Os yw'ch sgiliau cyfweliad braidd yn rhydlyd, gall ymarfer eich techneg mewn cyfweliad wella'ch siawns o lwyddo.
Darllenwch y storïau isod i ganfod sut mae nextstep eisoes wedi helpu pobl i gael y swyddi yr oeddent wir yn dymuno eu cael.
Collodd Jerzy, sy'n 41 oed, ei swydd ar ôl bod yn gweithio fel gosodwr carpedi am 14 mlynedd. Doedd e ddim eisiau mynd yn ôl i osod carpedi, ond roedd hi'n anodd dod o hyd i waith arall.
"Roedd ymgeisio am swyddi'r oeddwn i'n gwybod nad oeddwn i mo'u heisiau yn beth digalon iawn", meddai wrth gofio am y profiad. "Awgrymodd fy ngwraig y gallwn i gymryd mantais o'm hoffter mawr o arddio, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau".
Cafodd merch Jerzy wybod am nextstep. I ddechrau, nid oedd yn siŵr sut gallai newid o fod yn osodwr carpedi diwaith i fod yn arddiwr. Ond gydag anogaeth gan ei deulu, fe wnaeth e'r alwad ffôn.
Cafodd gymorth gan y cynghorydd nextstep i ysgrifennu CV cryf a llythyrau'n ei gyflwyno'i hun i bob planhigfa a busnes garddio yn yr ardal. Siomwyd Jerzy ar yr ochr orau gan ei lwyddiant: "Fe ges i gyfweliad ac fe gynigiwyd gwaith rhan amser i mi - erbyn hyn rydw i wrth fy modd yn helpu cwsmeriaid gyda'u ymholiadau ynghylch garddio."
Ar ôl chwe mis, cynigiodd y blanhigfa swydd llawn amser i Jerzy. "Mynd at nextstep oedd y peth gorau wnes i", meddai. “Roedd hi'n braf gallu siarad â rhywun am fy mreuddwydion, a chael y fath ymateb cadarnhaol".
Collodd Kim ei swydd pan oedd hi'n 53 oed. Roedd hi'n meddwl na fyddai hi byth yn gallu dod o hyd i swydd arall.
"Roeddwn i ar chwâl yn llwyr i ddechrau ac yn meddwl, 'Wel, dyna ni. Mae hi ar ben arna i!' Fe wnes i fwy nag un cais am amryw o swyddi, ond ches i ddim cyfweliad, hyd yn oed. Roedd fy hyder wedi diflannu'n llwyr."
Daeth Kim ar draws pamffledyn yn sôn am nextstep tra roedd hi'n y llyfrgell. Meddyliodd nad oedd ganddi unrhyw beth i'w golli o roi caniad. Pan ddywedodd Kim wrth y cynghorydd am ei hobi - therapi amgen - awgrymodd y cynghorydd iddi wneud cais am le ar gwrs mewn Therapi Tylino ('Massage Therapy') yn y coleg lleol.
"Roedd e'n gwrs ardderchog, a bellach rydw i'n dylinwraig achrededig gyda chymwysterau llawn," meddai Kim, sydd hefyd yn dilyn cwrs mewn aromatherapi. Yn y cyfamser, mae ganddi swydd yn gweithio yn y sba iechyd a harddwch lleol: "Fe newidiodd fy mywyd i pan wnes i gais i fynd ar y cwrs hwnnw, a bellach rydw i'n teimlo fel person gwahanol".
Dywedwyd wrth Dave, sy'n 43 oed, bod ganddo glefyd y galon a bod raid iddo roi'r gorau i'w waith gyda chontractwr sy'n gosod toeau.
Gwyddai ei fod eisiau dal ati i weithio. Roedd e'n hoff o Dechnoleg Gwybodaeth a chwarae o gwmpas ar gyfrifiaduron, ond allai e ddim wynebu'r syniad o fod yn gaeth mewn swyddfa. Yna fe ddaeth ar draws nextstep ar y rhyngrwyd, a threfnodd i gael cyfarfod â chynghorydd.
Dywedodd Dave wrthi ei fod yn mwynhau gwaith ymarferol, a'i fod eisiau rhyw fath o amrywiaeth bob dydd. Awgrymodd hi y dylai wneud defnydd o'i ddiddordeb mewn TG trwy ddilyn cwrs ar sut i osod a chynnal a chadw systemau TG.
Ar ôl i Dave gwblhau'r cwrs, fe ddechreuodd ei fusnes ei hun gan helpu pobl eraill gyda'u systemau cyfrifiadurol. Tyfodd y busnes wrth i bobl ddechrau sôn amdano ac fe all weithio ar ei gyflymder ei hun ac ar adegau sy'n gyfleus iddo.
"Fyddwn i erioed wedi ystyried gweithio i mi fy hun", medd Dave. "Ond mae wedi trawsnewid fy ffordd o fyw yn llwyr. Rydw i'n ymlacio llawer mwy a gallaf roi gwell trefn ar fy amser. Mae nextstep yn wasanaeth gwych i bobl fel fi, a wir, mae siarad wyneb yn wyneb â rhywun yn eich helpu i ddeall beth rydych chi eisiau ei wneud â'ch bywyd."