Os ydych chi'n chwilio am gyngor ar ddysgu personol a gyrfaoedd, gallwch ei gael mewn ffordd sy'n addas i chi. Gallwch gyfarfod cynghorydd wyneb yn wyneb, sgwrsio dros y ffôn neu gysylltu â chynghorydd drwy e-bost: pa un bynnag sydd fwyaf cyfleus.
Gwasanaeth am ddim yw nextstep ar gyfer pobl sy'n 20 neu'n hŷn yn Lloegr ac sydd heb gael cymhwyster Lefel 2 llawn eto (pum TGAU da neu gymhwyster cyfatebol). Mae ymgynghorwyr personol yn eich swyddfa leol yn barod i'ch helpu gyda chyngor ar ddysgu ac ar yrfaoedd.
P'un ai a ydych eisiau newid swydd neu ddysgu rhywbeth newydd ac ehangu'ch sgiliau, gallwch siarad yn gyfrinachol â'ch cynghorydd personol, a chynllunio'r cam nesaf
Gallwch gael cyngor arbenigol yn rhad ac am ddim am eich dewisiadau dysgu neu'ch dewisiadau gyrfa drwy drefnu i gynghorydd learndirect roi galwad ar adeg sy'n gyfleus i chi. Mae pob galwad am ddim, boed i linell gartref neu i ffôn symudol.
I gael cyngor ar ddysgu, gyrfaoedd, cyrsiau, cymwysterau a chymorth ariannol ar gyfer dysgu, anfonwch eich cwestiwn yn syth at gynghorydd dysgu. Bydd cynghorydd yn ymateb i'ch ymholiad cyn gynted â phosibl.
Os nad ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd, gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i ddod o hyd i'r math delfrydol o swydd: llawn amser neu ran amser, dros dro neu'n barhaol.
Os ydych chi rhwng 13 a 19 oed, gall Connexions Direct roi'r holl wybodaeth a chyngor sydd eu hangen arnoch er mwyn gwneud penderfyniadau am ddysgu, gwybodaeth, a rhagor.