Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Grant Dysgu i Oedolion: a ydych chi'n gymwys?

Mae pob math o bobl yn gwneud pob math o gyrsiau gyda'r Grant Dysgu i Oedolion. Os ydych yn gymwys, gallai roi hyd at £30 yr wythnos i chi - ond mae'n rhaid i chi fodloni rhai amodau i fod yn gymwys.

Pwy sydd yn gymwys i gael y Grant Dysgu i Oedolion?

Er mwyn cael y Grant Dysgu i Oedolion, rhaid i chi fod yn 19 neu'n hŷn, ac yn astudio yn Lloegr.

Gall eich dewis o gwrs a'ch incwm bennu a ydych yn gymwys hefyd.

Cyrsiau sy'n gymwys ar gyfer y Grant Dysgu i Oedolion

Rhaid i'r cwrs yr ydych yn ei ddilyn arwain at eich cymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 llawn cyntaf er mwyn i chi fod yn gymwys ar gyfer y Grant Dysgu i Oedolion.

Rhaid i chi hefyd fod yn astudio ar sail amser llawn - o leiaf 12 awr yr wythnos (sy'n cyfateb i 450 awr o 'ddysgu dan arweiniad' y flwyddyn, neu 150 awr y tymor) - a mynychu'r coleg yn rheolaidd.

Yn olaf, rhaid i chi ddilyn y cwrs gyda darparwr dysgu a ariennir gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau. Gofynnwch i'ch coleg os nad ydych yn siŵr.

Yn ansicr ynghylch ai Lefel 2 neu Lefel 3 yw'ch cwrs?

Mae cymwysterau Lefel 2 yn gyfystyr â phump TGAU neu fwy gyda graddau A* i C, neu NVQ lefel 2. Mae cymwysterau Lefel 3 yn gyfystyr â dau gymhwyster Safon Uwch neu NVQ lefel 3.

Os ydych yn ansicr ynghylch lefel eich cwrs, gofynnwch i'ch darparwr dysgu neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor Gyrfa ar 0800 100 900.

Eich incwm a'ch budd-daliadau

Gallwch ddal ati i weithio'n rhan-amser os ydych chi'n cael Grant Dysgu i Oedolion

I gael Grant Dysgu i Oedolion, ni ddylech fod wedi ennill mwy na'r trothwy incwm yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Y trothwy ar hyn o bryd yw:

  • llai na £19,513 os ydych yn sengl
  • incwm ar y cyd sy'n llai na £30,810 os ydych yn byw gyda phartner

Mae'r trothwy incwm yn seiliedig ar eich incwm gros – eich incwm cyn tynnu treth a didyniadau eraill.

Ydych chi'n cael unrhyw fudd-daliadau?

Ni fyddwch yn gymwys i gael y Grant Dysgu i Oedolion os ydych yn hawlio budd-daliadau diweithdra megis Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm.

Fodd bynnag, ni fydd y rhan helaeth o'r mathau eraill o gymorth ariannol sydd ar gael yn gwneud dim gwahaniaeth o ran a allwch chi gael Grant Dysgu i Oedolion ai peidio.

Gallwch wneud cais hyd yn oed os ydych chi'n gweithio'n rhan-amser – ac os ydych chi'n hawlio'r rhan fwyaf o fudd-daliadau 'mewn gwaith', fel Bwrsarïau Addysg i Oedolion, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.

Ond ceir rhai eithriadau – edrychwch ar ‘Y Grant Dysgu i Oedolion a'ch budd-daliadau’ i gael manylion.

Y cam nesaf: cael gwybod faint allech chi ei gael

Os ydych chi'n gymwys i gael y Grant Dysgu i Oedolion, canfyddwch faint allech chi ei gael.

Additional links

Cyngor ar gyfer y Grant Dysgu i Oedolion

I gael cyngor ar eich cais am y Grant Dysgu i Oedolion, ffoniwch 0800 121 8989

Cyngor am y cwrs

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU