Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grantiau Dysgu i Oedolion: faint gewch chi

Gallai'r Grant Dysgu i Oedolion helpu i leddfu unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn ag arian, gan adael i chi ganolbwyntio ar ddysgu. Os ydych chi'n gymwys, cewch hyd at £30 yr wythnos yn ystod y tymor – sy'n oddeutu £1,000 y flwyddyn. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm.

Os ydych chi'n sengl

Os ydych chi'n sengl, bydd faint gewch chi'n dibynnu ar gyfanswm eich incwm yn y flwyddyn dreth ddiwethaf.

Eich incwm Taliad wythnosol
Hyd at £11,810       £30
 £11,811 - £15,405  £20
 £15,406 - £19,513  £10
Dros £19,513 Dim taliad


Os ydych chi'n byw gyda phartner

Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, bydd faint gewch chi'n dibynnu ar gyfanswm incwm y ddau ohonoch ar y cyd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Cyfanswm incwm blynyddol eich partner a chithau Taliad wythnosol
Hyd at £20,817       £30
 £20,818 - £25,521  £20
 £25,522 - £30,810  £10
Dros £30,810 Dim taliad


Sut mae'r Grant Dysgu i Oedolion yn cael ei dalu?

Os yw'ch cais yn llwyddiannus, bydd y taliadau'n cael eu talu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc.

Byddwch yn cael y taliadau'n wythnosol yn ystod y tymor, cyn belled â bod eich lefelau presenoldeb yn foddhaol.

Am ba mor hir y gellir talu'r Grant Dysgu i Oedolion?

Fel arfer, telir y Grant Dysgu i Oedolion am hyd at ddwy flynedd, ond mae'n bosib ymestyn y cyfnod hwnnw os byddwch chi'n astudio tuag at eich cymhwyster Lefel 2 llawn cyntaf ac yna'n mynd yn syth yn eich blaen i wneud eich cymhwyster Lefel 3 llawn cyntaf - a'ch bod yn disgwyl gorffen eich cwrs o fewn tair blynedd.

Gallech ymestyn eich taliadau Grant Dysgu i Oedolion ymhellach os oes gennych anawsterau dysgu neu anabledd – holwch dîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich coleg.

Y cam nesaf: sut i wneud cais

Additional links

Cyngor ar gyfer y Grant Dysgu i Oedolion

I gael cyngor ar eich cais am y Grant Dysgu i Oedolion, ffoniwch 0800 121 8989

Cyngor am y cwrs

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU