Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynllun Gofal Plant mewn Colegau Chweched Dosbarth    

Os ydych chi'n rhiant sy'n 20 mlwydd oed neu'n hŷn ac yn astudio yn y chweched dosbarth mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth, gallai'r Cynllun Gofal Plant mewn Colegau Chweched Dosbarth roi cymorth i chi tuag at eich costau gofal plant.

Cymorth gyda chostau gofal plant: myfyrwyr chweched dosbarth sy'n 20 neu'n hŷn

Os ydych chi'n rhiant sy'n 20 mlwydd oed neu'n hŷn ac yn astudio'n yn chweched dosbarth mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth, gallech gael cymorth tuag at eich costau gofal plant drwy'r Cynllun Gofal Plant mewn Colegau Chweched Dosbarth.

Gan ddibynnu ar incwm eich cartref, gallech gael help gwerth hyd at £160 yr wythnos i bob plentyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/2010 (hyd at £175 yn Llundain).

Pan fyddwch chi'n cyfrifo costau gofalu am eich plentyn, cewch gynnwys:

  • ffïoedd y byddwch yn eu talu i'ch gofalwr plant
  • cost unrhyw deithiau ychwanegol y mae'n rhaid i chi eu gwneud rhwng eich cartref a’ch gofalwr plant

Ydych chi'n gymwys?

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth drwy'r Cynllun Gofal Plant mewn Colegau Chweched Dosbarth, mae angen i chi fodloni'r holl amodau a nodir yn yr adran hon.

Mae'n rhaid i chi:

  • byw yn Lloegr
  • bod yn astudio'n llawn-amser neu'n rhan-amser yn y chweched dosbarth mewn ysgol neu mewn coleg chweched dosbarth sydd wedi’u hariannu gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau (gofynnwch i’ch ysgol neu goleg os nad ydych yn siŵr
  • bod yn 20 oed neu’n hŷn ar y diwrnod yr ydych yn dechrau dysgu
  • bod yn brif ofalwr plentyn sydd o dan 15 oed (neu o dan 16 os ydynt yn anabl)

Rhaid i'r gofalwr plant a ddefnyddiwch fod wedi'i gofrestru'n llawn gydag Ofsted. Gofynnwch am gael gweld tystysgrif gofrestru'ch gofalwr plant os nad ydych yn siŵr.

Chewch chi ddim bod yn derbyn cefnogaeth gan ffynonellau eraill ar gyfer costau gofal plant a theithio tra byddwch yn hawlio gan y cynllun hwn.

Faint o arian allech chi ei gael

Mae faint allwch chi ei gael drwy'r Cynllun Gofal Plant mewn Colegau Chweched Dosbarth yn dibynnu ar incwm eich cartref. Os oedd incwm eich cartref yn llai na £30,502 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, gallwch hawlio cymorth ariannol er mwyn talu am eich costau gofal plant, hyd at uchafswm wythnosol o:

  • £160 y plentyn (os ydych chi'n byw y tu allan i Lundain)
  • £175 y plentyn (os ydych chi'n byw mewn ardal cyngor lleol yn Llundain - gallwch gael gwybod am hyn drwy glicio ar y ddolen isod)

Os ydych chi yn y coleg yn llawn-amser a bod cyfanswm incwm eich cartref rhwng £30,502 a £50,501, gallwch ddal i hawlio am gymorth tuag at eich costau gofal plant - ond chewch chi mo'r uchafswm wythnosol. Edrychwch ar y tabl isod i weld yr uchafswm y gallwch ei hawlio.

Incwm y cartref

Uchafswm y gellir ei hawlio yr wythnos (byw tu allan i Lundain)

Uchafswm y gellir ei hawlio yr wythnos (byw yn Llundain)

dan £30,502 hyd  at £160 hyd at £175
£30,502 – £35,501 hyd  at £128 hyd at £140
£35,502 – £40,501 hyd  at £96  hyd at £105
£40,502 – £45,501 hyd  at £64  hyd at £70
£45,502 – £50,501

hyd at £32

hyd at £35

£50,502 neu fwy

ni chaniateir unrhyw hawliad ni chaniateir unrhyw hawliad

Gallwch gael cymorth os ydych yn astudio'n rhan amser hefyd - ond bydd yr uchafswm wythnosol y gallwch ei hawlio'n llai. Bydd maint y gostyngiad yn dibynnu ar faint o amser yn union yr ydych yn ei dreulio yn y coleg.

Rhagor am y cynllun - a sut mae gwneud cais

Er mwyn cael gwybod rhagor, neu i gael ffurflen gais, ffoniwch linell gymorth y cynllun ar 0800 121 8989. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Ddim yn fodlon gyda’r ffordd y mae eich cais wedi’i drin?

Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd y mae eich cais wedi’i drin, galwch linell gymorth Cefnogaeth Dysgwyr ar 0800 121 8989. Bydd y staff sy’n gynghorwyr yn hapus i’ch helpu chi i ddatrys eich problem.

Mynd yn ôl i brif dudalen ynghylch ‘Cymorth gyda chostau dysgu tra'ch bod chi'n dysgu’

Additional links

Llinell Gymorth Dysgwyr

Am gyngor ar eich cais, galwch 0800 121 8989

Cyngor am ddim ar yrfaoedd a dysgu

Cael ateb i'ch cwestiynau yn fforymau'r Gwasanaeth Cyngor Gyrfa, podlediadau a llawer mwy...

Allweddumynediad llywodraeth y DU