Gallech gael grant na fydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl, megis Grant Dysgu i Oedolion, i helpu gyda chostau dysgu. Mae bwrsarïau yn debyg i grantiau, ond fel arfer maent yn gysylltiedig â phroffesiynau penodol megis Dyfarniadau Dawns a Drama neu fwrsarïau'r GIG.
Taliadau untro yw grantiau a does dim rhaid i chi eu talu'n ôl.
Gallech fod yn gymwys i gael Grant Dysgu i Oedolion gwerth hyd at £30 yr wythnos i'ch helpu i dalu am gostau dysgu.
Mae Cronfeydd Cefnogi Dysgwyr ar gael mewn colegau ac yn y chweched dosbarth mewn ysgolion i helpu gyda chostau dysgu. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol. Efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn derbyn mathau eraill o gefnogaeth hefyd.
Bydd rhai elusennau ac ymddiriedolaethau hefyd yn rhoi arian i unigolion ac mae'u rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys yn amrywio. Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorol Grantiau Addysgol (EGAS) yn darparu gwybodaeth a chyngor am ffynonellau cyllido drwy eu Cyfeiriadur, eu llinell gymorth a'u gwefan.
Mae Ymddiriedolaeth Addysg Ffederasiwn Cyffredinol yr Undebau Llafur yn cynnig grantiau i fyfyrwyr amser llawn a myfyrwyr y Brifysgol Agored mewn pynciau penodol, e.e. theori a hanes economaidd, cyfraith ddiwydiannol, hanes ac egwyddorion cysylltiadau diwydiannol.
Gallech hefyd daro golwg ar y cyhoeddiadau canlynol a ddylai fod ar gael yn eich llyfrgell leol:
Mae bwrsarïau'n debyg i grantiau ac, fel arfer, bydd y rhain yn gysylltiedig â phroffesiwn neu â chymhwyster penodol.
Ysgoloriaethau a noddir gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau yw'r Grantiau Dawns a Drama i helpu gyda ffioedd ar gyfer cyrsiau cymeradwy a chostau byw.
Os ydych chi'n awyddus i hyfforddi fel athro/athrawes, gallwch gael grant neu gyflog hyfforddi ac mae'n bosib y gallech chi fod yn gymwys ar gyfer cymelldaliad gan ddibynnu ar eich pwnc dysgu. Gellir defnyddio bwrsarïau'r GIG ar gyfer costau byw, deunyddiau a chostau dysgu; byddai eich ffioedd dysgu'n cael eu talu a gall bwrsarïau fod ar gyfer swm penodol neu'n seiliedig ar brawf modd (yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol).
Bydd y City & Guilds yn cynnig nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn i bobl sydd am astudio tuag at gymhwyster City & Guilds - gellir defnyddio'r ysgoloriaethau ar gyfer costau megis ffioedd cyrsiau, deunyddiau dysgu, gofal plant neu deithio; ystyrir y ceisiadau ym mis Mehefin a Rhagfyr bob blwyddyn.