Gallech gael cymorth ariannol tuag at eich costau dysgu, a chostau perthnasol fel teithio a gofal plant. Gallwch hefyd gael cyngor diduedd am y cymorth sydd ar gael gan gynghorydd dysgu dros y ffôn neu drwy e-bost.
Gallech fod yn gymwys i gael nawdd na fydd yn rhaid i chi ei ad-dalu er mwyn talu costau'ch cwrs naill ai'n llawn neu'n rhannol.
I ddarganfod mwy, dilynwch y dolenni isod, neu llwythwch y llyfryn 'Cymorth ariannol i oedolion sy'n cael eu haddysgu neu eu hyfforddi'
Grantiau Dysgu i Oedolion, a grantiau a bwrsariaethau eraill
Gallech gael grant na fydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl - er enghraifft, gallai Grant Dysgu i Oedolion olygu eich bod yn cael hyd at £30 yr wythnos tra byddwch yn gweithio tuag at eich cymhwyster llawn cyntaf ar lefel 2 neu 3.
Mae bwrsariaethau yn debyg i grantiau ond, fel arfer, bydd y rhain yn gysylltiedig â phroffesiynau penodol
Mae Cronfeydd Cefnogi Dysgwyr ar gael mewn colegau ac yn y chweched dosbarth mewn ysgolion i helpu gyda chostau dysgu. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol. Efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn derbyn mathau eraill o gefnogaeth hefyd.
Gall Benthyciad Datblygu Gyrfa (CDL) eich helpu i dalu am ddysgu galwedigaethol neu ddysgu cysylltiedig â gwaith. Benthyciad banc lle caiff yr ad-dalu ei ohirio ydy Benthyciad Datblygu Gyrfa i'ch cynorthwyo i gael benthyg rhwng £300 ac £8,000.
Os ydych chi eisiau dilyn cwrs addysg uwch, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael benthyciad i fyfyrwyr neu fath arall o gymorth ariannol.
Os ydych chi eisoes yn gweithio, mae'n bosib y byddai eich cyflogwr yn barod i noddi eich hyfforddiant. Gallech gael cymorth â chostau os ydych yn aelod o undeb llafur. Os byddwch yn derbyn budd-daliadau mae'n bosib y bydd modd i chi ddilyn cwrs heb golli unrhyw un ohonynt.
Am gyngor diduedd am gyllido a chymorth ariannol, ffoniwch linell gymorth learndirect ar 0800 100 900 rhwng 8.00 am a 10.00 pm saith niwrnod yr wythnos.
Cewch ofyn i rywun roi galwad ffôn i chi ar amser cyfleus, gan ddefnyddio gwasanaeth cynghori ffôn rhyngweithiol learndirect. Os oes gennych gyfeiriad e-bost gallwch anfon e-bost gyda'ch ymholiad at ymgynghorydd dysgu.
Mae rhai cyrsiau am ddim, gan gynnwys cyrsiau llythrennedd a rhifedd yn ogystal â chyrsiau sy’n arwain at eich cymhwyster cyntaf sy’n gyfwerth i TGAU a Lefelau A.
Mae ffioedd cyrsiau'n amrywio yn ôl y pwnc, hyd y cwrs a'r math o gymhwyster. Gallwch gael gwybod mwy am ffioedd cyn i chi gofrestru.
Mae'n bosib y bydd costau ar gyfer pethau fel ffioedd arholiadau, teithiau maes ac aelodaeth o gymdeithasau neu glybiau. Efallai bydd angen i chi brynu deunyddiau - llyfrau, papur ysgrifennu ac offer cyfrifiadurol, neu unrhyw gyfarpar arbenigol angenrheidiol wrth ddilyn cyrsiau arbenigol megis celf neu gerddoriaeth. Fel arfer, gallwch weld beth yw'r costau hyn cyn cychwyn eich cwrs.
I gadw'r costau i lawr gallwch:
Efallai bydd gennych yr hawl i gael cymorth ychwanegol a fyddai'n cyfrannu at gostau perthnasol megis costau byw, teithio neu ofal plant. Mae'n werth cael sgwrs â'ch swyddog cefnogi myfyrwyr neu'ch swyddog lles i wneud yn siur eich bod yn cael yr holl arian y mae gennych hawl iddo.