Os ydych chi'n 20 oed neu'n hŷn ac yn rhiant i un plentyn neu ragor, gallai'r cynllun Gofal Plant am Ddim ar gyfer Hyfforddiant a Dysgu ar gyfer Gwaith eich helpu gyda chostau gofal plant pan rydych yn dysgu neu'n hyfforddi.
Anelir y cynllun Gofal Plant am Ddim ar gyfer Hyfforddi a Dysgu ar gyfer Gwaith at rieni di-waith gyda phartner sy'n gweithio. Os ydych chi'n awyddus i ddilyn cwrs sy'n datblygu sgiliau newydd a allai arwain at swydd, gallai'r cynllun ddarparu hyd at £175 ar gyfer pob plentyn bob wythnos er mwyn helpu gyda chostau gofal plant.
O gyrsiau gloywi byr mewn Saesneg a mathemateg i gymwysterau ffurfiol mewn amrywiaeth eang o bynciau – mae rhywbeth ar gael i bawb.
Gan fod digonedd o gyrsiau hyblyg ar gael, gallwch astudio wrth eich pwysau ac am ba bynnag gyfnod ag y dymunwch, gan ddatblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes a meithrin sgiliau newydd ar hyd y ffordd.
Gallech fod yn gymwys ar gyfer y cynllun Gofal Plant am Ddim ar gyfer Hyfforddiant a Dysgu ar gyfer Gwaith os ydych chi'n 20 neu'n hŷn, yn ddi-waith, ac os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:
Mae hefyd angen i chi ddefnyddio darparwr gofal plant sydd wedi'i gofrestru ag Ofsted.
Gallai'r cynllun Gofal Plant am Ddim ar gyfer Hyfforddiant a Dysgu ar gyfer Gwaith helpu i dalu am ofal plant, gan adael i chi ganolbwyntio ar ddysgu neu hyfforddiant. Os byddwch yn gymwys, gallech gael hyd at £175 ar gyfer pob plentyn bob wythnos – neu £215 ar gyfer pob plentyn bob wythnos yn Llundain.
I wneud cais am Ofal Plant am Ddim ar gyfer Hyfforddiant a Dysgu ar gyfer Gwaith, neu i gael gwybod mwy am y cynllun: