Os ydych chi'n dechrau ar swydd newydd a chithau'n 50 oed neu'n hŷn, efallai y gallech gael help gyda chostau hyfforddiant sy'n ymwneud â'ch gwaith drwy'r Grant Hyfforddiant yn y Gwaith i rai dros 50. Bydd angen i chi fodloni amodau penodol er mwyn cael y grant - edrychwch i weld a ydych chi'n gymwys cyn cofrestru ar gyfer hyfforddiant.
Ydych chi wedi dechrau ar swydd newydd ar ôl bod yn ddi-waith am dipyn? Gallai'r Grant Hyfforddiant yn y Gwaith i rai dros 50 fod yn ddefnyddiol os oes arnoch angen diweddaru'ch sgiliau er mwyn dechrau arni - neu roi hwb i'ch cyfleoedd yn eich swydd newydd.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallech ddefnyddio'ch grant i helpu gyda'r canlynol:
Gallai'r grant roi hyd at £1,500 i chi tuag at hyfforddiant sy'n ymwneud â'ch gwaith, p'un ai a yw'n cael ei gynnig gan eich cyflogwr, eich coleg lleol neu drwy ddarparwr dysgu arall. Gall hyn gynnwys ffïoedd dysgu, llyfrau a chostau eraill ar y cwrs, fel cofrestru a ffïoedd arholiadau.
Gallech fod yn gymwys i gael y grant:
Bydd angen i chi wneud cais am y grant o fewn 52 wythnos ar ôl i'r budd-dal perthnasol ddod i ben.
Dyma'r budd-daliadau a all eich gwneud yn gymwys i gael y grant:
Dim ond os yw'r Ganolfan Byd Gwaith yn ystyried bod gan yr hyfforddiant gysylltiad agos â'ch gwaith y gallwch gael y grant i dalu amdano.
Chewch chi mo'r grant hyd nes i chi ddechrau ar yr hyfforddiant, ond dylech wneud yn siŵr ohono gyda chynghorydd o'r Ganolfan Byd Gwaith cyn i chi ymrwymo i ddilyn yr hyfforddiant. Gallan nhw roi gwybod i chi a yw'r hyfforddiant sydd gennych mewn golwg yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y grant.
Os ydych chi'n meddwl eich bod o bosib yn gymwys i gael y grant a'ch bod am wneud cais, y cam cyntaf yw cysylltu â chynghorydd yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Efallai y gallech gael cymorth ychwanegol drwy'r Fargen Newydd i rai dros 50. Gall cynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith gynnig arweiniad wrth ddod o hyd i swydd, ac ar ôl i chi ddechrau gweithio efallai y gallech gynyddu'ch cyflog drwy'r Credyd Treth Gwaith.