Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Panel Dysgwyr Cenedlaethol: rhoi llais i ddysgwyr ar lefel genedlaethol

Ers mis Tachwedd 2006, mae'r Panel Dysgwyr Cenedlaethol wedi bod yn cynghori'r llywodraeth am y ffordd y bydd newidiadau arfaethedig i addysg bellach yn effeithio ar ddysgwyr. Mae wedi ei wneud i fyny o wirfoddolwyr sy’n rhan o addysg uwch fel dysgwyr – yn rhoi llais i ddysgwyr fel chi ar lefel genedlaethol.

Beth mae’r Panel Dysgwyr Cenedlaethol yn ei wneud?

Sefydlwyd y Panel Dysgwyr Cenedlaethol gan yr Adran Addysg a Sgiliau er mwyn rhoi llais i ddysgwyr yn natblygiad addysg bellach ar lefel genedlaethol. Mae'n cynghori'r llywodraeth, y Cyngor Dysgu a Sgiliau a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â gwneud y penderfyniadau.

Drwy roi safbwynt dysgwr am bolisïau, cynigion a mentrau, ei nod yw gwneud gwahaniaeth i'ch profiad o addysg bellach – a hynny i bobl sy'n dysgu yn y gwaith, yn astudio mewn coleg, yn mynychu dosbarth nos neu mewn unrhyw ffurf arall ar ddysgu i oedolion.

Pwy sydd ar y Panel Dysgwyr Cenedlaethol?

Mae aelodau'r panel yn wirfoddolwyr annibynnol rhan-amser. Mae unrhyw un sy'n gweithio ym maes addysg bellach yn gymwys i eistedd ar y panel – yr unig beth y mae ei angen arnynt yw diddordeb mewn addysg bellach ac ymroddiad i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion dysgwyr.

Mae aelodau’r panel yn adlewyrchu'r amrywiaeth eang o ddysgwyr mewn addysg bellach. Fe'u cymerir o bob rhan o'r sector, o golegau i ddysgu yn y gwaith.

Mae oedrannau'r aelodau'n amrywio o 17 i 67, gan gynnwys pobl sydd newydd adael yr ysgol, rhai sy'n dychwelyd at ddysgu'n hwyr yn eu bywydau i gynyddu eu cyfleoedd gyrfa a rhai sydd wedi ymddeol ac yn dysgu er pleser.

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy ynghylch aelodau’r panel ar gyfer 2007/2008 a chael gwybod beth ydynt yn astudio.

Sut mae’r Panel Dysgwyr Cenedlaethol yn gweithio?

Gofynnir i'r panel am eu safbwyntiau am nifer o faterion sy'n effeithio ar ddysgwyr, a byddant yn cytuno ar gynllun gwaith sy'n amlinellu'r materion y mae'r aelodau'n dymuno eu hystyried. Bydd y panel llawn yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn mewn gwahanol ddinasoedd ledled y DU.

Mae aelodau'r panel hefyd yn dod at ei gilydd mewn grwpiau llai i drafod meysydd lle mae ganddynt ddiddordeb penodol, a lle maent yn teimlo y gallant wneud cyfraniad arbennig o werthfawr.

Wedi i'r panel edrych ar fater, rhoddir eu barn i Weinidogion a phobl eraill sy'n gwneud y penderfyniadau. Bydd copïau o'u hadroddiadau ar gael yn y dyfodol agos – dewch yn ôl i'r dudalen hon cyn bo hir er mwyn darganfod sut.

Beth mae’r Panel Dysgwyr Cenedlaethol wedi'i wneud hyd yn hyn?

Ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2006, mae'r panel wedi darparu’r llywodraeth a phobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau gyda phersbectif dysgwyr ar ystod eang o faterion pwysig.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • sut i sicrhau bod barn dysgwyr yn cael eu hystyried yn ystod arolygiadau coleg
  • y ffordd orau i weithredu diwygiadau sydd wedi eu hanelu at godi safon sgiliau yn y DU
  • ystod eang o farnau ar gynigion i godi’r oedran lleiafswm mae pobl ifanc yn gallu gadael addysg neu hyfforddiant

Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy ynghylch yr hyn mae’r panel wedi gwneud yn barod.

Mwy am addysg bellach

I gael gwybodaeth am addysg bellach i oedolion, gweler 'Oedolion yn dysgu'. I gael manylion cyfleoedd pellach i bobl 16 i 19 mlwydd oed, gweler 'Chi biau'r dewis: Dewisiadau ar ôl 16'.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU