Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyngor gyrfaoedd wyneb-yn-wyneb gyda nextstep

Ydych chi eisiau hogi'ch sgiliau, ond heb wybod ble i ddechrau? Ydych chi'n nerfus oherwydd nad ydych wedi gweithio ers tipyn? Beth os na wyddoch sut mae mynd ati i ddod o hyd i swydd neu gael cymhwyster? Wnaethoch chi adael yr ysgol heb eich TGAU? Yna gall nextstep eich helpu.

Beth yw nextstep?

Mae nextstep yn wasanaeth wyneb-yn-wyneb rhad ac am ddim sy'n rhoi cyngor am hyfforddiant, dysgu a’r byd gweithio.

Beth all nextstep ei gynnig?

Mae ar y mwyafrif helaeth o bobl angen help wrth wella'u sgiliau, wrth ddod o hyd i swydd neu wrth newid eu swydd ar ryw adeg yn eu bywydau.

Bydd eich cynghorydd nextstep personol yn siarad â chi'n gyfrinachol er mwyn eich helpu i gynllunio'ch dyfodol drwy gysylltu'ch diddordebau personol a'ch sgiliau gyda swydd neu yrfa.

Bydd eich cynghorydd hefyd yn eich cynorthwyo:

  • i ddeall y farchnad swyddi
  • i chwilio ac ymgeisio am swyddi
  • i ddod o hyd i nawdd er mwyn cefnogi'ch dysgu
  • i ddatblygu'ch CV
  • i wella'ch sgiliau mewn cyfweliad ac wrth gyflwyno
  • drwy awgrymu ffyrdd o wneud cynnydd yn eich swydd bresennol

Pwy sy’n cael defnyddio gwasanaethau nextstep?

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth nextstep os ydych chi’n:

  • 20 oed neu’n hŷn
  • 18 neu 19 oed, ac yr ydych wedi cael eich cyfeirio at nextstep gan y Canolfan Byd Gwaith

Sut mae gwneud apwyntiad

Defnyddiwch wasanaeth darganfod nextstep er mwyn cael rhif ffôn a chyfeiriad eich swyddfa nextstep leol.

Yna, yn syml, ffoniwch neu e-bostiwch er mwyn trefnu apwyntiad ar amser sy'n gyfleus i chi.

Beth y gall nextstep ei gynnig?

Help gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg

Mae nifer o bobl yn sylweddoli nad ydynt yn gwneud y gwaith yr hoffent ei wneud oherwydd nad ydyn nhw'n ddigon hyderus am eu darllen, eu hysgrifennu neu eu mathemateg.

Gall nextstep eich helpu drwy'ch rhoi ar y trywydd cywir er mwyn gwella'ch sgiliau - a gallant ddweud wrthych pa fath o gymorth ariannol sydd ar gael wrth i chi ddysgu.

Canfod pa sgiliau sydd gennych

Yn ogystal â'ch helpu i ganfod pa sgiliau'r ydych eisiau eu gwella, gall nextstep hefyd eich helpu i ysgrifennu CV sy'n eu disgrifio'n eglur - ac yn eich paratoi ar gyfer cyfweliadau swyddi.

Cymorth gyda'ch gyrfa gan nextstep

Os oes arnoch eisiau newid swyddi, gall nextstep eich helpu i adnabod y sgiliau newydd sydd eu hangen arnoch a sut y gall pethau a ddysgwyd gennych mewn un swydd fod yn werthfawr mewn swydd arall.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU