Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am gwrs dysgu i oedolion

Mae'r broses ymgeisio'n amrywio o un coleg a darparwr dysgu i'r llall. Gallwch gael help a chyngor wrth wneud cais am gwrs, pa un a oes angen i chi lenwi ffurflen gais, mynd am gyfweliad neu ddarparu geirda.

Cael gwybod am y broses ymgeisio

Gallwch gysylltu â darparwyr dysgu'n uniongyrchol i gael gwybodaeth am eu trefn ymgeisio a mynediad. Efallai na fydd pob darparwr dysgu'n gofyn am gais ffurfiol. Mae llawer o ganolfannau cymunedol yn cynnig cyfleoedd dysgu galw heibio. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw mynd yno ac ymuno â'r dosbarth. Weithiau, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru syml wrth gyrraedd. Gall tiwtoriaid eich helpu gyda hyn.

Efallai y bydd angen i chi wneud cais ar-lein ar gyfer cwrs e-ddysgu, a bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr dysgu'n darparu cymorth technegol i'ch helpu. Gallwch fynd ar y we am ddim yn un o ganolfannau UK online ac mewn llyfrgelloedd. I gael gwybodaeth am eich canolfan UK online agosaf, ffoniwch y llinell gymorth neu ymwelwch â gwefan UK online.

Help gyda'ch cais

Wrth wneud cais, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ddarparu'r canlynol:

  • ffurflenni cais
  • CV
  • datganiadau personol
  • geirdaon
  • portffolio (ar gyfer cyrsiau megis celf a dylunio)

Gallwch gael cyngor ar-lein neu'n uniongyrchol gan y coleg yr ydych chi'n gwneud cais i fynd iddo.

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, mae'n bosib y bydd angen i chi aros i diwtor y cwrs gael golwg arno. Ar gyfer rhai cyrsiau, fe gewch eich gwahodd am gyfweliad. Bydd hyn yn gyfle i'r tiwtor ddod i wybod amdanoch chi ac i chi gael gwybod mwy am y cwrs.

Os yw'r tiwtor yn hapus gyda'ch cais a'ch cyfweliad, mae'n bosib y bydd yn gofyn am eirdaon gan y canolwyr a enwebwyd gennych.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU