Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael gwared ar eich gremlins

A yw gwaith cartref eich plant yn eich drysu? Ydych chi am loywi eich sgiliau darllen, ysgrifennu neu fathemateg? Ffoniwch linell gymorth Get On ar 0800 66 0800 i gael gwared â'ch gremlins.

Ydych chi am loywi'ch sgiliau Saesneg a Mathemateg?

Ewch i'r afael â'ch gremlins

Hoffech chi roi help llaw i'ch plant gyda'u gwaith cartref ond nad oes gennych glem ble i ddechrau? Neu ydych chi am loywi'ch sgiliau yn y gwaith ac yn difaru na wnaethoch chi roi mwy o sylw yn eich gwersi mathemateg?

Peidiwch â phoeni - nid chi ydy’r unig un.

Mae bron i saith o bob deg oedolyn yn cyfaddef pe bai ganddynt fwy o hyder yn eu Saesneg a'u mathemateg yna byddent yn gallu treulio mwy o amser yn helpu eu plant gyda'u gwaith cartref.

Dod o hyd i gwrs sy'n rhad ac am ddim yn agos i chi

Os hoffech chi loywi'ch sgiliau a symud ymlaen â'ch bywyd, mae 'na help ar gael i chi.

Dewiswch o blith cannoedd o gyrsiau rhad ac am ddim ledled y wlad a fydd yn eich helpu i feithrin sgiliau newydd a gwella'ch rhagolygon am swydd. Gall y cyrsiau hyn helpu i loywi'ch sgiliau mathemateg a Saesneg mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

Mae llawer o'r cyrsiau'n cynnig cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig – a gall hynny, yn ei dro, arwain at ragor o ddysgu a chymwysterau.

Drwy feithrin eich sgiliau bydd hynny o fantais i'ch plentyn a'i waith ysgol - ond gall newid eich bywyd chi hefyd, wrth i chi wneud cynnydd yn eich gwaith ac yn eich bywyd gartref.

Cael cyngor am ddim gan Linell Gymorth Get On
I weld ble mae'r cwrs am ddim agosaf atoch chi, ffoniwch linell gymorth Get On heddiw. Mae galwadau yn rhad ac am ddim.

  • Llinell gymorth Get On: 0800 66 0800

Gallwch hefyd ddefnyddio'r ddolen isod i drefnu bod cynghorydd Get On yn rhoi galwad yn ôl i chi am ddim.

Cael gwybod mwy am loywi'ch sgiliau

Gwella eich sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd
Yma, gallwch ddod o hyd i gyrsiau blasu rhad ac am ddim, chwilio am gwrs sydd at eich dant a chael gwybod mwy am Stori Sydyn (Quick Reads) a grwpiau darllen

Gwella eich sgiliau cyfrifiadur a'ch sgiliau Technoleg Gwybodaeth
Dewiswch o amrywiaeth o gyrsiau ar bob lefel, o sesiynau blasu ar-lein am ddim i gyrsiau sy'n arwain at gymwysterau. .

Cael cyngor dysgu am ddim drwy'r e-bost
Anfonwch e-bost at gynghorydd dysgu i gael gwybodaeth am gyrsiau, sgiliau a chyllid

Chwilio am gwrs
Chwiliwch am gwrs sy'n rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi, yn y lleoliad mwyaf cyfleus.

Defnyddiwch gronfa ddata cyrsiau Directgov i chwilio drwy bron i filiwn o gyrsiau er mwyn dod o hyd i'ch cwrs perffaith.

Additional links

Ydych chi'n ffrindiau â rhywun sydd â ffobia am y we?

Dywedwch wrthynt am ffonio 0800 77 1234 a mynd ar-lein

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU