A ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n elwa ar gael help i ddechrau arni ar-lein? Mae canolfannau ar-lein y DU yn llefydd gwych i ddechreuwyr llwyr gael mynd ar-lein am ddim, gyda chymorth arbenigol gerllaw. Os ydych yn adnabod rhywun a allai fanteisio ar gael cymorth, dywedwch wrthynt am ffonio 0800 77 1234.
Mae'n debygol eich bod yn adnabod rhywun nad ydynt yn mynd ar-lein. Nid yw dros draean o boblogaeth y DU yn defnyddio'r rhyngrwyd - sy'n golygu bod miliynau o bobl yn colli cyfle i fanteisio ar y buddiannau.
Gall mynd ar-lein hefyd arbed amser, arian a thrafferth. Er enghraifft:
Mae canolfannau ar-lein y DU yn llefydd gwych i ddechreuwyr ddechrau defnyddio'r cyfrifiadur a'r rhyngrwyd. Ceir dros 6,000 o ganolfannau ledled Lloegr - a chanddynt staff sy'n barod i gynnig help a chyngor. Dechreuodd llawer ohonynt fel ymwelwyr â chanolfannau ar-lein y DU - felly maent yn deall pryderon dechreuwyr.
Os ydych chi'n adnabod rhywun a allai fanteisio ar help i ddechrau arni ar-lein, dywedwch wrthynt am gysylltu â'u canolfan ar-lein y DU agosaf.
Gallant gael gwybod lle mae hi drwy ffonio 0800 77 1234 am ddim - neu gallwch ddilyn y ddolen isod i weld hyn.
Mae myguide yn gyfrwng dysgu sydd wedi’i greu yn arbennig ar gyfer pobl y mae’r rhyngrwyd yn newydd iddynt. Gellir ei ddefnyddio mewn canolfan ar-lein y DU, neu gartref.
mae myguide yn cynnwys:
Os hoffech ddatblygu eich sgiliau cyfrifiadurol mae cyrsiau ar gyfer dechreuwyr ac uwch, yn amrywio o ddysgu ar-lein am ddim i hyfforddiant sy'n arwain at gymhwyster.
Gallai eich canolfan ar-lein y Du agosaf fod yn lle delfrydol i wella eich gwybodaeth. Mae digon o gyngor arbenigol ar gael bob amser, p'un a ydych yn gobeithio dysgu sut i ddefnyddio camera digidol neu gael help i ddechrau ar gwrs byr, anffurfiol.
Gallwch chwilio ar y we am gyrsiau eraill ac am golegau lleol, neu gallwch drefnu i gynghorwr dysgu eich ffonio'n ôl gyda gwybodaeth.
Gall mynd ar-lein fod yn fanteisiol i rieni yn arbennig. Gall gwybod eich ffordd o amgylch y rhyngrwyd eich helpu i oruchwylio'r hyn y mae eich plentyn yn ei wneud tra mae'n defnyddio'r cyfrifiadur, neu awgrymu ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eu gwaith cartref.
Mae digon o wybodaeth ddefnyddiol ar y rhyngrwyd hefyd. Ar Directgov, er enghraifft, gallwch gael gwybodaeth am ofal plant ac ysgolion yn eich ardal, gwneud cais am le mewn ysgol a gweld dyddiadau tymhorau.