Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwella eich sgiliau darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau

Beth am wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd? Gallwch ddysgu sut i ddilyn cwrs di-dâl, cael cyngor yn rhad ac am ddim, ymuno â chlwb, cymryd rhan mewn gweithgareddau a dysgu ar-lein.

Datblygu'ch sgiliau

Gall gwella'ch sgiliau eich helpu mewn amryw o wahanol ffyrdd - trefnu'ch arian, cael swydd newydd, helpu'ch plentyn i wneud ei waith cartref neu lenwi ffurflenni - a rhoi hyder i chi nad oedd gennych erioed o'r blaen.

Mae nifer helaeth o gyrsiau y gallwch eu dilyn i helpu i roi hwb i'ch sgiliau, a gall rhai arwain at gymhwyster hyd yn oed.

Bydd modd i chi ddysgu yn eich ardal leol, ac mewn ffordd sy'n addas i chi - rhan amser, amser llawn, yn ystod y dydd neu gyda'r nos. A byddwch gydag oedolion o'r un anian â chi - felly fydd o ddim byd tebyg i fod yn ôl yn yr ysgol.

Cael cyngor am ddim gan linell gymorth Get On

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am wella'ch sgiliau, ffoniwch linell gymorth Get On.

  • Llinell gymorth Get On: 0800 66 0800

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm, saith niwrnod yr wythnos. Hefyd, gallwch drefnu i rywun roi galwad ffôn yn ôl i chi ar amser cyfleus gan ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn rhyngweithiol.

Archebwch eich DVD Get On rhad ac am ddim heddiw!

Cael eich DVD Get On rhad ac am ddim

Gwyliwch y DVD Get On newydd, i weld sut y gallai gwella eich sgiliau mathemateg a Saesneg wneud gwahaniaeth mawr i'ch bywyd.

I archebu eich copi, ffoniwch linell gymorth Get On ar 0800 66 0800 - gallwch hefyd archebu neu wylio'r DVD ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod.

Beth y mae’n ei olygu?

Mae cyrsiau darllen ac ysgrifennu (neu gyrsiau llythrennedd) yn ymwneud â siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Mae cyrsiau delio â rhifau (neu gyrsiau rhifedd) yn ymdrin â rhifau, ffracsiynau a data; lluosi a thynnu; a mesur, siapiau ac amser.

Efallai y gofynnir i chi sefyll prawf cyn cychwyn eich cwrs, er mwyn helpu'ch tiwtor i benderfynu pa gwrs yw'r mwyaf addas i chi.

Rhoi cynnig ar gwrs blasu

Ddim yn siwr am ymrwymo i wneud cwrs llawn? Mae'n werth holi eich darparwr dysgu lleol a ydynt yn cynnal cyrsiau blasu. Cyrsiau byr yw'r rhain, sy'n gadael i chi ymarfer eich sgiliau darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau, ac yn rhoi syniad i chi sut beth fyddai cwrs hirach.

Chwilio am gwrs gyda chanfyddwr cyrsiau Directgov

Defnyddiwch ganfyddwr cyrsiau Directgov i chwilio am y cwrs sy'n iawn ar eich cyfer chi - neu i ddod o hyd i'ch darparwr dysgu lleol.

BBC RaW (Darllen ac Ysgrifennu) a Skillswise

Gall BBC RaW (Darllen ac Ysgrifennu) eich helpu i roi hwb i'ch sgiliau drwy gyfrwng gweithgareddau ar-lein megis gemau, cwisiau a phrofion. Cewch hefyd wybodaeth am eich canolfan RaW agosaf - eich llyfrgell leol neu eich canolfan ddysgu leol efallai. Cewch help gyda RaW ar-lein, cymryd rhan mewn gweithgareddau a rhannu'ch profiadau gydag eraill.

Mae gan wefan BBC Skillswise hefyd lawer o ganllawiau ac offer i'ch helpu i ddarllen ac ysgrifennu.

Profi'ch sgiliau ar wefan Move On

Mae gwefan Move On yn gadael i chi brofi'ch sgiliau Saesneg a Mathemateg, neu ddod o hyd i'ch canolfan brofi leol os ydych yn dymuno cael cymhwyster.

Mwy o lefydd i ddysgu ar-lein

Mae llawer o adnoddau dysgu i'w cael am ddim ar-lein, gan gynnwys cyrsiau, gemau a chwisiau - i gael gwybod mwy, edrychwch ar yr erthygl 'e-ddysgu'.

Ydych chi'n mwynhau darllen ac ysgrifennu?

Rhowch gynnig ar Stori Sydyn!

Llyfrau clawr meddal wedi'u hysgrifennu gan awduron poblogaidd yw 'Stori Sydyn', ac maent wedi'u cynllunio i gymell pobl i ddarllen. Mae'r llyfrau ar gael mewn siopau llyfrau, archfarchnadoedd a llyfrgelloedd, a'u pris yw £1.99.

Cyhoeddwyd deg llyfr newydd ym mis Mawrth 2008, gan gynnwys llyfrau gan Gordon Ramsay, Colin Jackson, Josephine Cox - a stori Doctor Who newydd.

Cysylltu â phobl eraill

Os ydych chi'n mwynhau darllen, ysgrifennu neu adrodd storïau, efallai y byddech yn hoffi cwrdd â phobl o'r un anian â chi.

Mae nifer o glybiau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar draws y wlad, neu cewch wybod mwy am ymuno â chlwb llyfrau neu gychwyn clwb eich hun ar wefan Rhwydwaith Gweithredu'r BBC.

Additional links

Ydych chi'n ffrindiau â rhywun sydd â ffobia am y we?

Dywedwch wrthynt am ffonio 0800 77 1234 a mynd ar-lein

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU